Y Gweinidog Gofal yn ymweld â CUBRIC
13 Chwefror 2015
Mae'r Brifysgol wedi croesawu Norman Lamb AS, Gweinidog Gofal a Chymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yng nghwmni AS Canol Caerdydd, Jenny Willott, ymwelodd y Gweinidog â Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC) i ddysgu am ymchwil y Brifysgol sy'n torri tir newydd.
Yn ystod ei ymweliad, gwelodd y Gweinidog dros ei hun rywfaint o waith y Brifysgol ym meysydd delweddu'r ymennydd, y niwrowyddorau ac ymchwil glinigol a geneteg. Cafodd wybod hefyd sut mae ymchwil y Ganolfan yn hwyluso ffyrdd newydd o ddeall iechyd meddwl.
Cafodd y Gweinidog ei dywys o gwmpas safle lle mae adeilad newydd gwerth £44m y Brifysgol yn cael ei adeiladu hefyd. Dyma fydd ychwanegiad diweddaraf y Brifysgol at safle Ymchwil ac Arloesedd gwerth miliynau lawer o bunnoedd ar Heol Maendy, a disgwylir iddo fod yn barod yng ngwanwyn 2016. Bydd yn golygu bod arbenigedd o'r radd flaenaf mewn mapio'r ymennydd, a'r dechnoleg ddiweddaraf mewn delweddu ac efelychu'r ymennydd, yn dod ynghyd yn yr un lle; dyma'r unig le yn Ewrop sy'n cyfuno cyfleusterau ac arbenigedd fel hyn. Fel canolfan niwroddelweddu, bydd CUBRIC yn atgyfnerthu arbenigedd penodol mewn niwroddelweddu yng Nghymru, a bydd yn gymaradwy o ran graddfa â chyfleusterau yng Ngogledd America.
Bydd ystafell gyfarpar yn y cyfleuster newydd lle ceir sganiwr 7T i greu'r delweddau manylaf erioed o gemeg, strwythur a swyddogaeth yr ymennydd. Bydd yn cynorthwyo tîm o niwrowyddonwyr y Ganolfan, sy'n cynyddu mewn nifer, ac yn adeiladu ar ragoriaeth ymchwil gyfredol.
Mae cost yr adeilad a'r cyfarpar rhagorol fydd ynddo yn cynnwys £22m o arian a grantiau y mae ymchwilwyr CUBRIC wedi'u cael gan gyrff fel Sefydliad Wolfson, Ymddiriedolaeth Wellcome, Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Ymchwil Feddygol a Llywodraeth Cymru.
Hyd yma, mae gwaith y Ganolfan wedi gwneud gwahaniaeth amrywiol a pharhaus y tu allan i'r byd academaidd. Mae wedi helpu i ddeall yn well beth sy'n achosi cyflyrau niwrolegol fel dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, a chanfod atebion hanfodol wrth ddatblygu triniaethau gwell.