Cynfyfyrwraig yr Ysgol Ieithoedd Modern yn cipio anrhydedd Gwobr Athro Almaeneg
16 Mehefin 2017
Yn ddiweddar, enillodd cynfyfyriwr wobr a oedd yn tynnu sylw at ei chyflawniadau rhagorol fel athro Almaeneg.
Cyflwynwyd Chloe Samuels, sydd bellach yn athro yn Ysgol Gyfun Caerllion, â Gwobr Athro Almaeneg clodfawr gan Lysgennad yr Almaen, Dr Peter Ammon, mewn seremoni a gynhaliwyd yn ei breswylfa yn Llundain ar 12 Mehefin.
Mae'r gwobrau yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan Lysgenhadaeth Gweriniaeth Ffederal yr Almaen i gydnabod cyflawniadau athrawon Almaeneg ymhlith athrawon cynradd ac uwchradd ar draws y DU.
Sbardunwyd cariad Chloe tuag at yr Almaeneg yn yr ysgol lle’r oedd ganddi athrawes ysbrydoledig a oedd yn ei dysgu â brwdfrydedd a bywiogrwydd. Cafodd ei swyno gan iaith, hanes a diwylliant yr Almaen ac felly pan ddaeth hi’n amser dewis pwnc yn y Brifysgol, dewisodd Chloe BSc/Econ astudiaethau Undeb Ewropeaidd a oedd yn ei galluogi i astudio Almaeneg fel ei phrif bwnc, ochr yn ochr â Sbaeneg ar lefel dechreuwyr. Treuliodd Chloe ei blwyddyn dramor ym Merlin a graddio yn 2005.
Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau academaidd yn 2011, ymunodd Chloe ag Ysgol Gyfun Caerllion a bellach hi yw’r Arweinydd Pwnc ar gyfer yr Almaeneg.
Wrth siarad am ei champ dywedodd Chloe, "Bin super aufgeregt! Rydw i ar ben fy nigon i ennill y wobr ac yn hynod falch bod gwaith caled ac ymroddiad ein tîm o athrawon Ieithoedd Tramor Modern yng Nghaerllion wedi'i gydnabod. Mewn gwirionedd mae unrhyw wobr sy’n cael ei rhoi i athro unigol yn wobr am addysgu’r tîm cyfan. Heb i’r tîm gefnogi fy syniadau a fy nghynlluniau, ni fyddai unrhyw beth yn cael ei wneud! "
"Gyda’i synnwyr digrifwch cellweirus a’i diddordeb brwd yn y pwnc, roedd hi’n bleser llwyr addysgu Chloe, a dydw i ddim yn synnu o gwbl ei bod hi wedi datblygu i fod yn athrawes ysbrydoledig", meddai ei chyn-diwtor cwrs, Elke Oerter. "Ar hyn o bryd mae gen i ddau o gynfyfyrwyr ymroddedig Chloe o Gaerllion yn fy Mlwyddyn Gyntaf, sy’n dyst i'r gwahaniaeth y gall athro neu athrawes angerddol ei wneud o ran ennyn brwdfrydedd dysgwyr."
Mae’r Almaeneg ar gael yn yr Ysgol Ieithoedd Modern fel rhaglen Anrhydedd Sengl neu Gydanrhydedd wedi’i chyfuno â phynciau eraill. Gellir ei astudio fel pwnc i ddechreuwyr heb unrhyw wybodaeth flaenorol am yr iaith neu fel pwnc uwch ar gyfer ymgeiswyr gyda gradd Safon Uwch (lefel A).