Prifysgol yn cefnogi Gŵyl Arloesedd Cymru
19 Mehefin 2017

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Gŵyl Arloesedd Cymru rhwng 19 a 30 Mehefin 2017.
Bydd ymchwilwyr yn dangos i'r cyhoedd sut mae Cymru ar flaen y gad o ran y technolegau sy'n newid cymdeithas. Byddant hefyd yn hyrwyddo beth sydd gan Gymru i’w gynnig i fyd busnes ac yn annog y partneriaethau sydd eu hangen i alluogi arloesedd.
Mae'r digwyddiadau’n cynnwys seremoni dathlu effaith academyddion, cynhadledd gyhoeddus sy’n dangos y ffyrdd newydd o ddefnyddio gwyddoniaeth DNA, a dangos teclyn digidol ar gyfer adrodd storïau hanesyddol.
Bydd staff sy'n cwmpasu arbenigedd eang y Brifysgol yn tynnu sylw at y ffyrdd creadigol ac annisgwyl y mae eu hymchwil wedi’u defnyddio dros gyfnod o 11 diwrnod.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gymryd rhan yng Ngŵyl Arloesedd Cymru. Y gorffennol sy’n dod i’r meddwl yn aml wrth feddwl am genhedloedd, ond mae’r ŵyl hon yn helpu i ddangos y dyfodol sydd gennym ar y cyd yng Nghymru fel gwlad flaengar ac arloesol a gaiff ei gyrru gan yr economi wybodaeth."
Bydd Dr Mhairi McVicar o’r Ysgol Pensaernïaeth yn cymryd rhan yn seremoni lansio Merched mewn Technoleg Cymru ar 20 Mehefin.
Bydd Dr Rhys Jones o Ysgol y Biowyddorau yn cymryd rhan mewn cynhadledd geneteg a genomeg gyhoeddus ar 21 Mehefin ac yn dangos sut y gall DNA helpu i ymladd troseddau yn erbyn bywyd gwyllt. Bydd yr Athro Les Baille o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yno hefyd yn esbonio sut mae ei ymchwil arloesol yn defnyddio gwenyn i wella gwrthfiotigau.
Bydd yr ymgyrchwyr iechyd meddwl blaenllaw, Jonny Benjamin a Neil Laybourn, yn rhoi roi sgwrs gyhoeddus am seicosis gyda Dr James Walters o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar 22 Mehefin. Mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi’i henwebu’n ‘arloeswyr y diwydiant’ yng Ngwobrau Technoleg Cymru a gynhelir y noson honno.
Bydd y Brifysgol yn croesawu Sefydliad y Peirianwyr Sifil i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg ar 23 Mehefin. Ar yr un diwrnod, bydd Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn dangos yr ap Olion/Traces a grëwyd gyda Dr Jenny Kidd o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.
Mae’r Brifysgol yn noddi Gwobrau Busnes Caerdydd cyn mynd ati i gynnal ei Gwobrau Arloesedd ac Effaith ei hun ar 26 Mehefin i gydnabod cyfraniad hollbwysig academyddion i gymdeithas.
Bydd darlith gyhoeddus Parc Geneteg Cymru yn egluro rôl hollbwysig y gwyddoniaeth DNA er mwyn adnabod corff Richard III mewn maes parcio yng Nghaerlŷr, a daw cyfraniad y Brifysgol i ben drwy Ganolfan Arloesedd Clwyfau Cymru a’r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn Arddangosfa Arloesedd Gwyddorau Bywyd ar 30 Mehefin.
Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael.