Tuag at frechiadau sydd wedi’u targedu’n fwy
16 Chwefror 2015
Y darlun cliriaf erioed o ymateb imiwnedd canser yn paratoi'r ffordd ar gyfer brechlynnau mwy cywir
Mae gwyddonwyr o Gaerdydd wedi defnyddio technoleg pelydr-x pwerus i ddelweddu sut y mae celloedd gwaed gwyn yn rhyngweithio gyda chelloedd canser y croen, gan baratoi'r ffordd ar gyfer datblygu brechlynnau canser mwy cywir.
Bu targedu canser gan ddefnyddio T-gelloedd, sef math o gell waed wen yn ffocws i lawer o ymchwiliadau. Mae gan T-gelloedd flaenau bysedd hynod sensitif o'r enw derbynyddion antigenau (TCRs) a ddefnyddir i dreiddio'r corff am arwyddion o afiechyd. Os bydd y TCR yn cydio mewn cell afiach, gall roi signal i'r T-gell i gael gwared ar y bygythiad.
Fodd bynnag, mae T-gelloedd wedi'u targedu i beidio ag ymosod ar ein meinwe ein hunain, sy'n rhwystr mawr ar gyfer gwyddonwyr sy'n ceisio targedu celloedd canser sydd yn aml yn deillio o gelloedd iach. Er mwyn osgoi hyn, mae nifer o labordai wedi rhoi cynnig ar addasu dernyn o'r gell canser er mwyn symbylu T-gelloedd sy'n benodol i ganser. Ond cafodd llwyddiant o ran defnyddio'r ymagwedd hon ei rwystro hyd yn hyn gan wybodaeth gyfyngedig am sut mae T-gelloedd yn rhyngweithio gyda chelloedd canser.
Er mwyn goresgyn hyn, cydweithiodd ymchwilwyr o Ysgol Feddygaeth Caerdydd gyda Diamond Light Source, y cyfleuster syncrotron cenedlaethol, er mwyn cynhyrchu pelydrau o ymbelydredd electromagnetig - sydd fil o weithiau'n fwy llachar na'r haul - i weld am y tro cyntaf sut y gall T-gelloedd wahaniaethu rhwng dernyn o ganser wedi'i addasu a gaiff eu defnyddio mewn brechlynnau, a chelloedd canser naturiol.
Mewn papur a gyhoeddwyd heddiw yn yr European Journal of Immunology, mae'r ymchwilwyr yn disgrifio sut y gall derbynyddion T-gelloedd gydio ar farcwyr naturiol canser y croen, gan newid eu siâp fymryn, er na ddigwyddodd y rhyngweithio hyn gyda'r brechlyn. Mae hyn, dywedant, yn esbonio pam y bu brechlynnau'n aflwyddiannus hyd yn hyn o ran denu derbynyddion T-gelloedd er mwyn cael gwared ar gelloedd â chlefyd.
"Mae delweddu moleciwlau derbynyddion yn hanfodol i ddeall sut maent yn gweithio." meddai'r prif ymchwilydd Dr David Cole o Ysgol Feddygaeth Caerdydd. "Er bod ein canlyniadau'n hynod bwysig ar gyfer deall sut mae T-gelloedd yn gweld canser y croen, maent hefyd yn dweud rhywbeth wrthym am natur hyblyg derbynyddion antigenau T-gelloedd a'u cywirdeb godidog. Rydym yn gobeithio y bydd deall y mecanweithiau hyn hefyd yn dod â goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer clefydau ar wahân i ganser."
Dywedodd Andy Sewell, hefyd o'r Ysgol Feddygaeth: "Rwyf wedi credu erioed bod gweld rhywbeth yn brawf ohono. Nawr bod gennym ddarlun eglurder atomig, rydyn yn gwybod beth sy'n digwydd ar y lefel folecwlar ac mae gennym gyfle gwell i ddatblygu brechlynnau mwy targededig yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Ian Lewis, Cyfarwyddwr Ymchwil gyda Tenovus Cancer Care: "Mae'r ymchwil hon yn hynod gyffrous gan ei bod yn darparu cam pwysig tuag at harneisio pŵer a phenodolrwydd ein systemau imiwnedd ein hunain i ddinistrio celloedd canser.
"Mae gan frechiadau a therapïau eraill sy'n defnyddio'r system imiwnedd y potensial i ddarparu triniaeth hynod effeithiol ar gyfer ystod eang o ganser gydag ond ychydig o sgil-effeithiau. Felly, rydym wrth ein boddau ein bod wedi helpu i gefnogi'r ymchwil hon a allai helpu sicrhau bod hyn yn realiti ar gyfer pob claf canser."
Ariannwyd yr ymchwil gan Tenovus Cancer Care, the Wellcome Trust a'r BBSRC.