Partneriaeth catalysis aur yn ennill gwobr Cymdeithas Frenhinol Cemeg
15 Mehefin 2017
Mae prosiect masnacheiddio catalydd arloesol gan Brifysgol Caerdydd a chwmni cemegau Johnson Matthey o’r DU wedi cael ei anrhydeddu yng ngwobrau blynyddol Cymdeithas Frenhinol Cemeg.
Dyfarnwyd y Wobr Cydweithio rhwng Diwydiant ac Academia mewn seremoni ym Manceinion i gydnabod datblygiad y catalydd hwn. Mae wedi’i wneud o aur a chaiff ei ddefnyddio i wneud llawer iawn o’r clorid finyl (VCM), prif gynhwysyn PVC.
Yr Athro Graham Hutchings a'i dîm yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) oedd y cyntaf i ddarganfod gallu rhyfeddol aur i gyflymu adweithiau.
Daeth i'r amlwg yng ngwaith ymchwil y tîm y gallai aur fod yn ddeunydd delfrydol i hwyluso'r broses o gynhyrchu VCM. Ers y 1950au, catalydd mercwri sydd wedi'i ddefnyddio i gynhyrchu VCM. Mae mercwri yn hynod niweidiol i'r amgylchedd, ac mae hefyd yn fygythiad difrifol i iechyd pobl yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
Ers gwneud y darganfyddiad hwn, mae CCI wedi cydweithio'n agos â Johnson Matthey sydd wedi treialu'r catalydd aur mewn gwaith ac adweithyddion peilot yn Tsieina. Erbyn hyn, mae ffatri lawn ar waith sy'n cynhyrchu cannoedd o dunelli o gatalydd aur i gynhyrchu VCM.
Dyma'r tro cyntaf ers dros 50 mlynedd i ddull llunio catalydd gael ei ailwampio er mwyn cynhyrchu unrhyw nwydd cemegol, ac mae wedi helpu i leihau faint o fercwri a gynhyrchir yn sylweddol.
Fis Mai eleni, cymeradwyodd yr UE Gonfensiwn Minimata ar gyfer mercwri. Roedd hyn yn gwneud yn siŵr ei bod yn ofynnol i bawb o dan sylw geisio atal mercwri rhag cael ei fwyngloddio. Roedd hefyd yn cynnwys camau i roi’r gorau i ddefnyddio mercwri yn raddol, yn ogystal â sut y caiff mercwri ei ddefnyddio, ei fasnachu, yn ogystal â’i allyriadau a sut y ceir gwared ohono.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Hutchings: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr yma, yn benodol am ei bod yn gydnabyddiaeth o bartneriaeth yr ydym wedi gweithio’n galed ar ei datblygu a’i chynnal dros flynyddoedd lawer, ac sydd wedi rhoi cynnyrch sy’n cael effaith go iawn ar y byd o’n cwmpas.”
Prif wobrau blynyddol Cymdeithas Frenhinol Cemeg yw Chemistry Means Business. Mae’n dod â chwmnïau newydd, mentrau bach a chanolig, sefydliadau rhyngwladol, ac entrepreneuriaid academaidd ynghyd o bob cwr o’r DU ac Ewrop.