Busnes addysg feddygol ym ymuno â Medicentre
15 Mehefin 2017
Mae cwmni dysgu a hyfforddi arbenigol wedi dechrau tenantiaeth ym Medicentre Caerdydd, canolfan meithrin technoleg feddygol a biodechnoleg flaenllaw.
Advanced Medical Simulation Online (AMSO) yw’r 18fed sefydliad i symud i Medicentre Caerdydd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.
Sefydlwyd AMSO yn 2015 i fynd i'r afael â’r diffyg cymorth addysgol penodol, fforddiadwy ac o’r safon uchaf sydd ar gael ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd. Mae sylfaenwyr y cwmni, yr Athro Nazar Amso, ymgynghorydd Obstetreg a Gynecoleg, a Dr Jacqueline Scott, uwch-ymarferydd meddygol, o’r farn y bydd AMSO yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i feithrin gwybodaeth a sgiliau clinigol yn y gweithle a chyflawni rhagoriaeth wrth roi triniaeth a gofal.
Degawd o brofiad addysgol
Mae'r cwmni yn cydweithio'n agos â sefydliadau meddygol i nodi anghenion hyfforddiant penodol gan roi cymorth wedi'i deilwra i’w staff. Rhoddir pwyslais penodol ar feysydd meddygaeth lle mae angen meithrin sgiliau ymarferol fel uwchsain, llawdriniaeth a chyfathrebu.
Cynigir y gefnogaeth ar ffurf cyrsiau dysgu o bell mewn pynciau sy’n cynnwys ymarfer uwchsain, iechyd menywod, iechyd rhywiol ac atgenhedlu, ac ymarfer llawfeddygol.
Mae AMSO wedi datblygu model unigryw ar gwmwl sy'n ymgorffori efelychiad mewn fformat dysgu o bell drwy ddefnyddio llwyfan dysgu rhyngweithiol. Mae hyfforddiant efelychu ar gael ar y safle hefyd i ddysgwyr sydd am ennill sgiliau ymarferol cyn mynd ymlaen i sefyllfaoedd clinigol.
Mae gan yr Athro Amso dri degawd o brofiad addysgol arbenigol ac yntau wedi sefydlu a chyfarwyddo rhaglen Meistr Uwchsain Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd rhwng 2004 a 2016. Mae hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr MedaPhor, cwmni addysg a hyfforddiant sy’n efelychu uwchsain sydd wedi tarddu o Brifysgol Caerdydd.
"Rydym am i AMSO fwynhau llwyddiant tebyg gan fod angen hyfforddiant meddygol lefel uchel sy’n hwylus ac sy’n gwneud synnwyr o safbwynt cyllidol, yn enwedig mewn gwledydd tlotach," meddai’r Athro Amso.
"Rydym bellach yn ddarparwr proffesiynol parhaus cofrestredig gyda sefydliad yn y DU sy’n pennu safonau ar gyfer cynnig DPP ledled y byd. Mae hyn yn ein galluogi i ddatblygu’r cyfleoedd hyfforddiant cenedlaethol a rhyngwladol yr ydym eisoes wedi’u nodi."
"Medicentre Caerdydd fydd y cartref delfrydol i ni"
Yn ddiweddar, fe lansiodd y cwmni ei gynnyrch addysg cyntaf: cwrs uwchsain ymarferol ar gyfer meddygon, nyrsys, bydwragedd a sonograffwyr. Ar hyn o bryd, mae’r Athro Amso a'i dîm yn llunio cwrs fydd yn canolbwyntio ar lawdriniaeth twll clo.
Meddai Dr Scott: "Rydym yn cydweithio ag addysgwr sy’n ein helpu i ddatblygu’r deunydd addysgol, yn ogystal â datblygwr gwefannau sy’n arbenigo mewn creu gwefannau addysgol. Mae gennym hefyd gyfadran feddygol a nyrsio arbenigol sy’n ein helpu i gyflwyno ein rhaglenni, dau weinyddwr, a chynlluniau i recriwtio rhagor o bobl wrth i’r busnes dyfu.”
Dywedodd Justin John, Swyddog Meithrin Busnesau ym Medicentre Caerdydd: "Pleser o’r mwyaf yw croesawu tîm AMSO i’r Medicentre. Mae llawer o gyffro ynghylch y cwmni ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth ei fod yn fusnes sydd am fod yn hynod lwyddiannus."