Dathlu Prydain, Canada a'r celfyddydau
14 Mehefin 2017
Bydd pen-blwydd Cyd-ffederasiwn Canada yn 150 yn cael ei ddathlu mewn cynhadledd dros dridiau a gefnogir gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Britain, Canada and the Arts yn tynnu sylw at y diwylliant cryf o gyfnewid, dylanwadu a chael trafodaethau artistig rhwng Canada a Phrydain, gan ganolbwyntio'n benodol ar y degawdau ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Bydd y digwyddiad, a drefnwyd gan Dr Irene Morra o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol, yn dod ag ysgolheigion ac ymarferwyr o ddisgyblaethau sy'n cynnwys theatr, ffilm, hanes, gwleidyddiaeth a chelf weledol.
Fel rhan o'r gynhadledd, bydd y cynhyrchwyr dylanwadol Tony Garnett (Up the Junction; Cathy Come Home) a Kenith Trodd (Pennies from Heaven; The Singing Detective) yn cymryd rhan mewn sgwrs â'r ymgynghorydd teledu Dick Fiddy a'r cynhyrchydd John Wyver (15 Mehefin). Ar ôl y drafodaeth, bydd dwy ffilm fer o Armchair Theatre Sydney Newman yn cael eu dangos.
Bydd ffilm o Robin and Mark and Richard III (16 Mehefin) hefyd yn archwilio dylanwad y cyfarwyddwr Shakespearaidd enwog, Robin Phillips, a chymhlethdodau cydweithio creadigol ym myd theatr. Yna, bydd y cyfarwyddwr ac awdur Susan Coyne (Slings and Arrows, Mozart in the Jungle) yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb, wedi'i chadeirio gan Gyfarwyddwr Archifau Gŵyl Stratford, Liza Giffen.
Cynhelir Britain, Canada and the Arts yn Llundain yn y Sefydliad Astudiaethau Saesneg (Institute of English Studies) (15-17 Mehefin). Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd (£65/£55 consesiynau) a chael tocynnau (£5) ar gyfer yr Arddangosiad Arbennig Robin Phillips/Holi ac Ateb o'r Sefydliad Astudiaethau Saesneg, Prifysgol Llundain.