Angen diwygio'r rheolau cyflogaeth i wella gofal cymdeithasol yn y DU
14 Mehefin 2017
Mae ymchwil newydd gan academydd o Brifysgol Caerdydd wedi cynnig cipolwg arloesol ac amserol ar argyfwng gofal cymdeithasol y DU.
Yn ei llyfr newydd, Stories of care: A labour of law - Gender and class at work, mae Dr Lydia Hayes o Ysgol Cyfraith a Gwleidyddiaeth y Brifysgol yn cynnig yr astudiaeth fanwl gyntaf o'i math am weithwyr gofal cartref yn y DU.
Gan olrhain yr agweddau rhywiaethol a rhagfarn ar sail dosbarth cymdeithasol o ddydd i ddydd a wynebir gan weithwyr gofal cartref, mae Dr Hayes yn archwilio sut a pham mae mesurau cyfreithiol i'w hamddiffyn yn eu gwaith wedi bod mor aneffeithiol.
Gan fframio argyfwng gofal cymdeithasol y DU yn yr unfed ganrif ar hugain yng nghyd-destun argyfwng o safbwynt rhywedd o ran rheoleiddio byd gwaith, mae Dr Hayes yn dadlau nad oes llawer o enghreifftiau gwell o feysydd lle mae'r wladwriaeth yn methu â pharchu menywod dosbarth gweithiol na'r ffaith bod y cyflogau ac amodau gwaith ar gyfer swyddi gofal cartref ymhlith y gwaethaf.
“Y llyfr pwysig ac ardderchog hwn”
Mewn lansiad yn Llundain, cafodd y llyfr ei ganmol gan y Farwnes Helena Kennedy QC am amlygu'r cysylltiad rhwng argyfwng gofal cymdeithasol yn y DU ac annigonolrwydd cyfreithiau cyflogaeth y DU, gan nodi y bydd 'y llyfr pwysig ac ardderchog hwn... yn gwneud gwahaniaeth mawr.'
Dywedodd Dr Hayes: “Fy mwriad gyda'r ymchwil hon oedd taflu goleuni ar y diffyg parch sylweddol a sefydliadol at y gweithlu gofal cartref, a dangos sut mae'r rhesymeg ddeallusol a gwerthoedd a fynegir yn y cyfreithiau cyflogaeth yn cyfiawnhau triniaeth wael, cyflogau isel ac ansicrwydd i weithwyr gofal cartref ym mywyd cyhoeddus, ac yn golygu nad ydynt yn weladwy.”
Mae tri animeiddiad ar-lein i ategu'r llyfr. Y cyntaf yw 'Cheap Nurse', sydd wedi'i seilio ar naratifau gweithwyr gofal cartref am gyflogau isel.
Yr ail yw 'Two-a-Penny', sy'n rhannu profiadau gweithwyr gofal cartref o ansicrwydd yn eu gwaith.
Y trydydd yw 'Mother Superior', sy'n canolbwyntio ar sut mae gweithwyr gofal cartref yn perfformio gwaith heb dâl, a'u hunaniaeth fel gofalwyr.
Mae Stories of Care: A labour of law. Gender and class at work, Palgrave (2017) ar gael mewn ar ffurf llyfr clawr meddal, clawr caled ac e-lyfr. Cewch ragor o wybodaeth yma.