Hebridean Norsemen
14 Mehefin 2017
Mae arddangosfa newydd sy'n cynnwys arteffactau archeolegol o gloddiadau Prifysgol Caerdydd yn adrodd hanes cyfnod y Llychlynwyr yn Ynysoedd Heledd o ddyfodiad cyntaf yr ysbeilwyr Llychlynnaidd hyd at eu haneddiad ar yr ynysoedd.
Mae Hebridean Norsemen, yn Amgueddfa nan Eilean, Benbecula, yn cofnodi'r newidiadau ym mywydau bob dydd trigolion yr ynysoedd, pwysigrwydd gweithgareddau crefft a bywyd artistig a chrefyddol y mewnfudwyr.
Caiff arteffactau o nifer o safleoedd ar draws Ynysoedd Heledd eu harddangos, gan gynnwys eitemau a ddarganfuwyd yng nghloddfa Prifysgol Caerdydd dros ddegawd yn Bornish yn Ne Uist.
Dywedodd Cyfarwyddwr y cloddiadau, yr Athro Niall Sharples, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: “Mae'n bleser mawr arddangos detholiad o'r deunydd a ganfuwyd yn Bornais, gan eu bod yn pwysleisio pwysigrwydd Ynysoedd Heledd yn y byd Llychlynnaidd...”
Arddangosfa arbennig
Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys arteffactau a gasglwyd dros 30 o flynyddoedd o gloddio gan Iain Crawford yn Udal, yng Ngogledd Uist, sy'n rhan o gasgliadau Amgueddfa nan Eilean. Yn ogystal, bydd nifer fach o arteffactau o gloddiadau Kilphedar dan arweiniad yr Athro Mike Parker Pearson, mewn cydweithrediad a Phrifysgol Sheffield.
Er nad yw’r darganfyddiadau o Bornais a Kilphedar wedi bod drwy'r drefn Trysor Cudd ffurfiol eto, mae Amgueddfa nan Eilean yn falch iawn i'w harddangos yn yr arddangosfa arbennig hon gyda chaniatâd y cloddwyr a Historic Environment Scotland. Cefnogodd HES y cloddiadau yn Bornish a Kilphedar, gyda chyllid rhannol drwy grantiau rhaglen archaeoleg.
Daw arteffactau eraill yn yr arddangosfa o gasgliad Amgueddfa nan Eilean, gan gynnwys gwrthrychau o amrywiol safleoedd ar draws Ynysoedd Heledd, gyda llawer wedi dod i’r amgueddfa drwy'r drefn Trysor Cudd.
“Hunaniaeth ddiwylliannol benodol”
Dywedodd Kevin Murphy, Archeolegydd ar ran Comhairle nan Eilean Siar: “Mae'r arddangosfa hon yn cynnig cipolwg ar fywyd Ynysoedd Heledd yn ystod cyfnod y Llychlynwyr - beth oedd pobl yn ei ffermio a'i fwyta, beth oedden nhw'n ei wisgo, y math o waith roedden nhw'n ei wneud a'u cysylltiadau â'r byd Llychlynnaidd ehangach...”
Cynhelir digwyddiad arbennig i'r gymuned leol ddod i ddangosiad preifat ddydd Mercher 21 Mehefin rhwng 5 a 6pm - croeso i bawb. Bydd staff o Treasure Trove Scotland yn cynnal sgyrsiau a gweithdai drwy gydol y dydd yn Amgueddfa nan Eilean, ac yn Lewis yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Mae'r arddangosfa'n rhedeg ar y cyd â Chynhadledd Archaeoleg yr Island Book Trust ar Uist rhwng 3 a 5 Awst. Bydd y gynhadledd yn cwmpasu sbectrwm eang o wybodaeth archeolegol a dehongli a gafwyd drwy holl Ynysoedd Heledd, gan gynnwys yr ymchwiliadau yn Udal a Bornish.
Bydd Hebridean Norsemen i'w gweld rhwng 9 Mehefin a 2 Medi yn Amgueddfa nan Eilean, Benbecula, Ynysoedd Heledd.