Ymchwilydd o'r Ysgol Meddygaeth yn cynnal darlith lwyddiannus arall yng Ngŵyl y Gelli
13 Mehefin 2017
Bob blwyddyn mae Gŵyl y Gelli yn dod â darllenwyr ac ysgrifenwyr at ei gilydd i rannu straeon a syniadau mewn digwyddiadau cynaliadwy ledled y byd.
Mae'r gwyliau'n ysbrydoli, archwilio a difyrru, ac yn gwahodd cyfranogwyr i ddychmygu'r byd fel y mae ac fel y gallai fod.
Cynhaliwyd gŵyl eleni o ddydd Iau 25 Mai tan ddydd Sul 4 Mehefin, a chafodd ei gynnal mewn pentref o bebyll yn y Gelli Gandryll, ar gyrion y parc cenedlaethol syfrdanol, Bannau Brycheiniog.
Bydd enillwyr Gwobr Nobel a nofelwyr, gwyddonwyr a gwleidyddion, haneswyr a cherddorion yn siarad â chynulleidfaoedd i gyfnewid syniadau dynamig.
Y llynedd, cafwyd darlith gan Dr Simone Cuff, Cydymaith Ymchwil yn Is-adran Heintiau ac Imiwnedd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, ynglŷn â'r 'Ecosystem Fewnol – Eich Corff a'i Ddinasyddion Mân'.
Roedd y digwyddiad mor llwyddiannus bod Simone wedi cael gwahoddiad yn ôl i siarad yno eto eleni.
Cafodd 'A allai firysau fod yn dda i chi?' ei gyflwyno i gynulleidfa lawn ddydd Gwener 26 Mai.
Crynodeb o'r ddarlith: Mae pawb yn gwybod bod ffliw yn wael i chi. Ac Ebola. A Zika. Pam mae cymaint o firysau sy'n achosi clefydau mor ofnadwy? A beth yw'r ymchwil bresennol yn ei ddweud wrthym am faes cymhleth a hynod ddiddorol firoleg?
Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Simone: