Stori fer Costa
22 Ionawr 2015
Mae myfyriwr graddedig mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei henwi ar restr fer Stori Fer Costa 2014.
Mae Joanne Meek yn un o chwech o awduron sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr, am ei stori fer, Jellyfish, sy'n adrodd hanes menyw sy'n dychwelyd gyda'i phlant i'r arfordir yr oedd unwaith yn gartref iddi.
Dywedodd Joanne, a gwblhaodd ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol y llynedd, "Mae'r stori a gyflwynais i gystadleuaeth stori fer Costa yn edrych yn agos ar ryngweithio dynol. Mae fy ngwaith ysgrifennu'n cael ei ddylanwadu'n fawr gan berthnasoedd, cyfathrebu a lleoedd.
"Yn bendant, fe wnaeth yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd roi'r hyder i mi roi cynnig ar y gystadleuaeth. Gwnaeth dysgu sut i olygu fy ngwaith fy ngalluogi i loywi fy stori i safon addas i'w chyflwyno. Roedd cyfarfod â'r darlithwyr gwadd yn ysbrydoledig iawn a chynigiodd fy ngrŵp cymheiriaid gymorth gwerthfawr."
Graddiodd Joanne gyda gradd BA anrhydeddus mewn Saesneg a Chyfathrebu yn 2009, ar ôl dechrau yn y Brifysgol yn sgil cwrs mynediad.
Lansiwyd Gwobrau Stori Fer Costa yn 2012, ac mae'n agored i bleidlais gyhoeddus, o chwe stori sydd wedi cael eu dewis ar gyfer y rhestr fer gan bum beirniad. Cyhoeddir enillydd 2014 a dau nesaf at y gorau, ar 27 Ionawr 2015.