Ym mha gyflwr y mae democratiaeth heddiw?
9 Mehefin 2017
Ar drothwy etholiad cyffredinol ym Mhrydain, cyflwynodd yr Athro Peter Sloterdjik – athronydd byd-enwog ac arbenigwr gwleidyddol o’r Almaen – ddarlith am gyflwr democratiaeth mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd.
Wrth agor cynhadledd Ewropeaidd bwysig am Gysylltiadau Rhyngwladol yn y Brifysgol, bu’r Athro Sloterdjik yn trin a thrafod y twf mewn poblyddiaeth a sut mae’n effeithio ar ddemocratiaeth.
Sloterdjik yw un o athronwyr amlycaf yr Almaen ac mae’n enwog am fynd i’r afael â phynciau dadleuol. Mae wedi bod yn flaenllaw mewn trafodaethau ynghylch geneteg, mewnfudo a’r asgell dde eithafol.
‘Ffiniau Newydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol’
Yn ei ddarlith, dadleuodd fod llawer o’r gwrthwynebiad i’r elît gwleidyddol yn deillio o’r ffaith fod democratiaeth yn cael ei hystyried yn gyfystyr a’r drefn wleidyddol ar hyn o bryd. Cynigiodd ddehongliad newydd pwysig o dwf y pleidiau poblyddol a sut mae tirwedd y pleidiau gwleidyddol yn newid.
Y digwyddiad hwn a ddechreuodd cynhadledd Ewropeaidd dri diwrnod o hyd oedd yn cynnwys Gweithdai o Astudiaethau Rhyngwladol. ‘Ffiniau Newydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol’ oedd thema’r digwyddiad a chafodd ei gynnal yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr Christian Bueger, Darllenydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac un o drefnwyr y digwyddiad: “Prifysgol Caerdydd yw un o brifddinasoedd deallusol y DU ym maes astudiaethau rhyngwladol...”
Daeth dros 350 o bobl o bob cwr o Ewrop i’r gynhadledd a gynhaliwyd yn y DU am y tro cyntaf.
Noddwyd y gynhadledd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, y Cyfnodolyn Ewropeaidd am Ddiogelwch Rhyngwladol, a chyfnodolyn New Perspectives.