Datblygu rheolwyr prosiect
20 Ionawr 2015
Cynhaliwyd digwyddiad yn y Brifysgol i ysbrydoli datblygu sgiliau arweinyddiaeth arbenigol ymhlith gweithwyr rheoli prosiectau proffesiynol.
Cynhaliwyd y digwyddiad blynyddol i gyn-fyfyrwyr Rheoli Prosiectau ar 16 Ionawr 2015. Daeth y digwyddiad â chyn-fyfyrwyr y cyrsiau rheoli prosiect 'Open for Business' at ei gilydd, a'u hannog nhw i gynnal cysylltiad â'r Brifysgol a'i gilydd, a rhannu eu profiad o weithio yn y maes.
Roedd y sesiwn yn cynnwys sgwrs gan Dr Maneesh Kumar, Ysgol Fusnes Caerdydd, a gyflwynodd gysyniadau allweddol Six Sigma ac esboniodd sut gellir cymhwyso'r dull hwn yn llwyddiannus at senarios rheoli prosiect er mwyn gwella canlyniadau prosiect.
Ymunodd siaradwr gwadd ag ef, sef Rhian Hamer o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a gyflwynodd y dull gwella parhaus - Lean - a rhannu ei phrofiadau yn cymhwyso technegau Lean i brosiectau. Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth fywiog a chwestiynau i ddilyn trwy rwydweithio anffurfiol a lluniaeth.
Dywedodd Taliesin Maynard, Pennaeth Rhaglenni Seilwaith Gwastraff Llywodraeth Cymru: "Roedd hwn yn ddigwyddiad o ansawdd gwych, ac o fudd mawr i gyn-fyfyrwyr Rheoli Prosiectau Caerdydd."
Dywedodd Clare Sinclair o Brifysgol Caerdydd: "Roeddem yn falch ein bod ni wedi gallu cynnal y digwyddiad yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedig newydd yn yr Ysgol Fusnes. Yn ystod y digwyddiad, roedd cyffro yn yr ystafell a llawer o ryngweithio yn ystod y sesiwn. Roedd adborth o'r digwyddiad yn gadarnhaol iawn, a derbyniwyd canmoliaeth ar gyfer y fformat brecwast dwy awr, a oedd yn gweithio'n dda i reolwyr prosiect prysur."
Mae aelodaeth o'r grŵp Cyn-fyfyrwyr Rheoli Prosiectau yn rhad ac am ddim i gynrychiolwyr cyrsiau rheoli prosiect Open for Business y Brifysgol. Mae'r digwyddiadau'n darparu cyfle prin i'r rheiny sy'n gweithio ym maes rheoli prosiectau i fuddsoddi yn eu datblygiad proffesiynol eu hunain, rhwydweithio a rhannu arfer gorau. Bydd aelodau'n elwa ar gylchlythyrau am ddigwyddiadau perthnasol eraill fydd yn digwydd ar draws y Brifysgol a chynigir gostyngiadau ar gyrsiau sydd ar ddod.
Darganfyddwch fwy am Gyn-fyfyrwyr Rheoli Prosiectau Prifysgol Caerdydd, ein hamrywiaeth o Gyrsiau Rheoli Prosiectau a'n cyfres oRhaglenni Addysg Gweithredol.