Cynghrair GW4 i lansio cyfleuster microsgopeg arloesol
8 Mehefin 2017
Bydd Cynghrair GW4 yn agor cyfleuster a rennir ar gyfer cryo-microsgopeg ar 1 Medi 2017 ym Mhrifysgol Bryste. Fe gostiodd y cyfleuster £2.3m.
Bydd y cyfleuster yn cynnig cyfres o gyfarpar microsgopeg a dadansoddi i ymchwilwyr ar draws rhanbarth Cymru a de-orllewin Lloegr. Bydd hyn yn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o brosesau moleciwlaidd sy'n gyfrifol am p'un a yw celloedd yn gweithio neu'n methu.
Gyda lwc, bydd y cyfleuster GW4 a rennir yn ein galluogi i gael gwybodaeth newydd am iechyd a chlefyd dynol yn gyflymach. Bydd hefyd yn denu gwyddonwyr mwyaf talentog y byd i gydweithio â phrifysgolion blaenllaw yn y rhanbarth.
Cafodd y cyfleuster ei sefydlu gyda chymorth dyfarniadau gan Ymddiriedolaeth Wellcome a chyd-fuddsoddi gan brifysgolion Cynghrair GW4. Adeilad Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Bryste fydd ei gartref yn rhan o Gyfleuster Bioddelweddu Wolfson.
Yn ddatblygiad arwyddocaol ym maes bioleg foleciwlaidd
Meddai'r academydd arweiniol, yr Athro Christiane Schaffitzel o Brifysgol Bryste: “Rydym wrth ein bodd fod yr ymdrech hon ar y cyd gan Gaerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg wedi dwyn ffrwyth...”
Meddai'r Athro Philip Ingham FRS FMedSci HonFRCP, Cyfarwyddwr Sefydliad Systemau Byw Prifysgol Caerwysg: “Bydd sefydlu'r cyfleuster modern hwn yn hollbwysig er mwyn atgyfnerthu safle sefydliadau GW4 ar flaen y gad ym maes ymchwil biomeddygol. Mae microsgopeg cryo-electron yn chwyldroi'r maes ac yn trawsnewid sut rydym yn dadansoddi cydrannau moleciwlaidd systemau byw...”
Meddai'r Athro Dylan Jones OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. “Bydd y cyfleuster newydd hwn yn rhoi cyfle gwych i ymchwilwyr sefydliadau GW4 astudio strwythur moleciwlau biolegol yn eglur iawn. Bydd yn trawsnewid ein dealltwriaeth o fecanweithiau moleciwlaidd iechyd ac afiechyd, ac yn meithrin cyfleoedd newydd i gydweithio rhwng grwpiau ymchwil yng Nghynghrair GW4.”
Bydd y digwyddiad yn arddangos rhinweddau modern Cyfleuster Cryo-Microsgopeg Electron Eglur Iawn GW4, Bydd hefyd yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ym maes gwyddorau bywyd o bob rhan o Gynghrair GW4 ynghyd i drafod syniadau ymchwil a chyfleoedd i gydweithio.
Cewch ragor o wybodaeth am y lansiad yn: http://gw4.ac.uk/all-events/symposium-and-launch-gw4-cryo-em-facility/
Sefydlwyd GW4 yn 2013 ac mae'n dod â phedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw ynghyd: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg i gyflwyno ymchwil o safon ryngwladol a chreu gweithlu hynod fedrus.