Dynion di-waith yn cipio gwobr dysgu
16 Mehefin 2017
Mae grŵp o ddynion di-waith o Ferthyr Tudful wedi ennill gwobr addysg oedolion nodedig ar ôl sefydlu llwybr treftadaeth yn cysylltu eu tref â Chaerdydd.
Defnyddiodd y dynion, gyda chefnogaeth prosiect ymgysylltu Cymunedau Iach, Pobl Iachach Prifysgol Caerdydd, geogelcio i dynnu sylw at hanes diwydiannol cyfoethog y rhanbarth.
Mae o leiaf 1,000 o bobl wedi dilyn y llwybr geogelcio, sef helfa drysor yn yr awyr agored lle mae’r rheiny sy’n cymryd rhan yn defnyddio cyfesurynnau GPS i ddod o hyd i wybodaeth ac eitemau sydd wedi’u cuddio yn y lleoliad.
Only Men Allowed
Mae’r dynion, sy’n cael eu galw yn ‘Only Men Allowed’, bellach wedi ennill gwobr addysg oedolion Inspire! gan y Sefydliad Dysgu a Gweithio, sef sefydliad polisi ac ymchwil ar gyfer dysgu gydol oes.
Mae sefydlu’r llwybr geogelcio yn un o’r prif weithgareddau, ymhlith eraill y mae’r dynion wedi cymryd rhan ynddynt, a gaiff ei gydnabod gyda’r wobr hon.
Daeth ‘Only Men Allowed’ ynghyd gyda help sefydliad adfywio cymunedol Ymddiriedolaeth Datblygu 3Gs ym Merthyr Tudful ar ôl sylweddoli bod y rhan fwyaf o bobl a oedd yn ymwneud â gweithgareddau cymunedol yn blant ac yn fenywod.
Datblygodd y dynion y syniad geogelcio er mwyn arddangos treftadaeth eu tref fel rhan o fenter ‘Cyfuno’ Llywodraeth Cymru – dan arweiniad Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn y rhanbarth – i roi’r grym i bobl chwarae rhan weithredol yn y celfyddydau, mewn diwylliant ac mewn treftadaeth.
Ers hynny, maent wedi gweithio i gysylltu’r llwybr â Chaerdydd gyda chyllid peilot gan un o brosiectau ymgysylltu eraill Prifysgol Caerdydd, Cyfnewidfa Dinas-Ranbarth.
Meddai un o'r dynion, Lee Stevens: “Rwy’ wedi dysgu cymaint am y cwm hwn a’r hanes – mae wedi gwneud i mi fod mor falch o'n gorffennol. Mae’r prosiect yn gwbl wych.”
Trek to Connect
Meddai Eva Elliott, sy'n arwain Cymunedau Iach, Pobl Iachach: “Mae’r grŵp hwn o ddynion yn fodelau rôl anhygoel ar gyfer eu cymuned, ac mae’r hyn maent wedi’i gyflawni wedi ein hysbrydoli.
“Nid yn unig mae wedi annog pobl i fod yn fwy actif, ond mae hefyd yn denu ymwelwyr i'r ardal...”
Roedd y prosiect geogelcio – sy’n cael ei alw’n Trek to Connect – yn cynnwys hyfforddiant gan sefydliadau treftadaeth fel Castell Cyfarthfa, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr, Casgliad y Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent ac Archifau Morgannwg.
Roedd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 15 Mehefin, yn nodi lansio Wythnos Addysg Oedolion 2017, sef y dathliad dysgu mwyaf yn Ewrop.