Astudiaeth yn ymchwilio i effaith inswlin
10 Rhagfyr 2014
Mae dadansoddiad o filoedd o gofnodion y GIG wedi datgelu cysylltiad rhwng dos cynyddol o inswlin i drin diabetes math 2 a chynnydd mewn risg o farwolaeth ymhlith cleifion.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolynDiabetes, Obesity and Metabolism, roedd ymchwilwyr o'r Ysgol Feddygaeth wedi gallu dangos cydberthynas rhwng cleifion a oedd yn cael eu trin â dos uwch o inswlin a chynnydd yn y risg o ddatblygu canser, trawiad ar y galon a strôc.
Fe wnaeth yr ymchwilwyr amlygu'r tueddiadau hyn trwy archwilio hanes meddygol 6,484 o gleifion â diabetes math 2, o'r UK Clinical Practice Research Datalink (CPRD). Ar gyfartaledd, roedd y cleifion yn 64 oed ar ddechrau'r astudiaeth yn 2000, a chawsant eu dilyn am gyfartaledd o 3 blynedd o'u defnydd cyntaf o inswlin.
Gan ystyried bod yr astudiaeth yn adolygol, nid oedd modd i'r ymchwilwyr wybod beth oedd yr union ddos yr oedd pob claf wedi'i dderbyn yn ystod eu triniaeth. Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddull o gyfrifo dos inswlin y dydd ar sail faint o inswlin a ragnodwyd a phwysau corff y claf.
Yn ôl yr ymchwilwyr, un ffordd o adrodd canlyniadau'r astudiaeth yw rhannu'r garfan yn bedwar grŵp o gleifion, wedi'u diffinio yn ôl y dos o inswlin a dderbyniwyd, yn amrywio o lai na 0.5 uned fesul cilogram o bwysau corff y dydd, hyd at ddosau mwy nag 1.5 uned.
"O'u cymharu â chleifion a dderbyniodd dosau oedd yn llai na 0.5 uned, mae ein canfyddiadau'n dangos bod cleifion oedd yn derbyn dosau rhwng 1 a 1.5 uned a mwy nag 1.5 uned yn gysylltiedig â chyfradd marwolaeth llawer uwch dros amser," meddai'r Prif Ymchwilydd, yr Athro Craig Currie, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
"Roedd gan amcangyfrif o 15% o gleifion a oedd yn cymryd dos rhwng 1 ac 1.5 uned gynnydd o 40% mewn risg o farwolaeth, o'i gymharu â'r grŵp o dan 0.5 uned, ac roedd gan y 5% o gleifion a oedd yn derbyn 1.5 uned gynnydd o 75% yn y risg o farwolaeth o'i gymharu â'r un grŵp."
Dywedodd yr Athro Currie nad yw'r rhesymau dros y canfyddiadau yn hollol glir. Fodd bynnag, yn y papur, mae'n nodi nifer o resymau posibl ynghylch pam mae cysylltiad yn bodoli rhwng dos inswlin pobl â diabetes math 2 a chynnydd yn y risg o farwolaeth a chanser.
Mae'r papur yn amlygu astudiaethau blaenorol sy'n awgrymu bod gan inswlin effeithiau hybu twf a allai fod ar fai am y gyfradd gynyddol o ddatblygu a chanfod tiwmorau, ac mae ymchwiliadau eraill wedi canfod cyswllt rhwng dosau inswlin uwch â sgîl-effeithiau fel rhydwelïau'n tewhau a rhythm calon afreolaidd iawn.
Rhybuddiodd yr Athro Currie, a oedd yn awyddus na fyddai arwyddocâd y canfyddiadau yn cael eu gorbwysleisio:
"Mae'n debygol yr oedd gan y cleifion a oedd yn derbyn dosau uwch o inswlin anhwylderau a oedd eisoes yn bodoli cyn iddynt ddechrau defnyddio inswlin, a allai fod yn gyfrifol am y cynnydd mawr yn yr achosion o farwolaethau a chanser.
"Gall astudiaethau arsylwadol adolygol gyfleu cysylltiadau posibl yn unig â digwyddiadau croes fel hyn. Mae'n bwysig nodi hefyd nad yw'r canfyddiadau hyn yn gysylltiedig â diabetes math 1. Mae'r cleifion hyn, yn nodweddiadol, yn iau o lawer ac mae inswlin yn hollol angenrheidiol.
"Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod angen darpar dreialon rheoledig ar hap i ymchwilio i'r achos dros y patrymau hyn i ddarparu tystiolaeth bendant o ran yr effaith wirioneddol y mae inswlin yn ei chael ar y miloedd o gleifion sy'n dibynnu ar feddyginiaeth sy'n rheoli glwcos."
O'r 6,484 o gleifion y dadansoddwyd eu cofnodion, cofnodwyd 1,110 o farwolaethau, yn ogystal â 352 o ddigwyddiadau cardiofasgwlaidd mawr cyntaf a 382 achos o ganser newydd.
Mae inswlin yn feddyginiaeth chwistrelladwy a ddefnyddir i ostwng lefelau glwcos gwaed pobl â diabetes math 1 a math 2, a gymerir gyda meddyginiaethau eraill neu fel therapi unigol. Edrychodd yr astudiaeth hon ar gleifion â diabetes math 2 a oedd yn cymryd inswlin fel eu hunig driniaeth ar gyfer y cyflwr.
Dywedodd Mr Simon O'Neill, Cyfarwyddwr Gwybodaeth Iechyd, Diabetes UK:
"Gan fod diabetes yn gyflwr cynyddol, efallai fod y rheiny sy'n cymryd dos uwch o inswlin wedi bod yn dioddef o'r cyflwr yn hirach ac roedd ganddynt broblemau iechyd sylfaenol nad ydym yn eu deall, ac felly, byddai angen i ni gyflawni mwy o ymchwil gadarnach cyn i ni allu fod yn hyderus bod inswlin yn cynyddu'r risg o farwolaeth gynnar.
"Ond er bod perthnasedd yr astudiaeth hon yn y byd go iawn yn aneglur, yr hyn sydd y tu hwnt i unrhyw amheuaeth yw, os oes gennych chi ddiabetes math 2, yna mae cynnal lefelau glwcos gwaed isel yn gyson yn hanfodol ar gyfer lleihau'r risg o gymhlethdodau distrywiol, fel dallineb, trychu a strôc ac, yn y pen draw, marwolaeth gynnar. Dyma pam mae inswlin yn driniaeth hanfodol a dylem bwysleisio ei bod hi'n hynod bwysig bod pobl sydd wedi cael presgripsiwn ar gyfer inswlin gan eu meddyg yn parhau i'w gymryd."