Ewch i’r prif gynnwys

The Black Chair

13 Ionawr 2015

The Black Chair

Mae stori drasig am un o feirdd enwocaf Cymru a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi'i diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o ganlyniad i brosiect cydweithio unigryw ym maes peirianneg.

Mae arbenigwyr ym maes argraffu 3D o Ysgol Beirianneg y Brifysgol wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri drwy CyMAL, i greu copi trawiadol maint llawn o Gadair Ddu Hedd Wyn.

Enillodd Hedd Wyn y Gadair am ei gerdd 'Yr Arwr' yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917, chwe wythnos wedi iddo farw yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyfarnwyd y Gadair ar ôl ei farwolaeth, ac mae'n enwog am iddi gael ei haddurno â gorchudd du yn ystod y sermoni gadeirio, a dyna darddiad ei henw unigryw.  

"Rydym wrth ein bodd bod y cyfuniad o gydweithio a thechnolegau gweithgynhyrchu  yng Nghymru wedi gallu taflu goleuni newydd ar un o straeon mwyaf ingol y Rhyfel Byd Cyntaf," meddai'r Athro Phil Bowen, Cyfarwyddwr yr Ysgol Beirianneg.

"Ers canol y 1990au, mae'r Labordai Gweithgynhyrchu Ychwanegol yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd wedi ennill eu plwyf yn sgîl eu gwaith ymchwil a datblygu rhagorol ym maes technolegau argraffu 3D. Maent yn gweithio ar gydrannau sy'n mynd i'r gofod gyda theulu roced Ariane, ar drac rasio Fformiwla 1, yn ogystal ag ar raglenni ar gyfer llongau tanfor dwfn.

"Drwy weledigaeth ein partneriaid a gallu gweithredol arbenigol ein tîm gweithgynhyrchu haen ychwanegol, fu'n chydweithio â Drumlord Ltd, credaf ein bod wedi llwyddo i adlewyrchu cyflawniad gweledol a thechnegol eithriadol gwneuthurwr y Gadair Ddu wreiddiol, Eugeen Vanfleteren," ychwanegodd yr Athro Bowen. 

Wrth ddadorchuddio'r Gadair Ddu yn y Senedd, meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Hedd Wyn yw un o feirdd enwocaf a mwyaf dylanwadol Cymru.

"Wrth i ni goffáu can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, mae'r Gadair Ddu erbyn hyn yn symbol o effaith ddinistriol y Rhyfel Mawr ar gymunedau a theuluoedd ledled Cymru, gan i lawer ohonynt golli tadau, brodyr, ewythrod a meibion yn sgïl y gwrthdaro.

"Dyma ddigwyddodd i Hedd Wyn, gan na allai fyth hawlio ei gadair yn yr Eisteddfod, sef y Gadair Ddu, oherwydd ei farwolaeth drasig ar faes y gad yn Fflandrys ym 1917.

"Felly, mae'n briodol ein bod wedi gallu ariannu'r copi hwn o beth sydd bellach yn un o gadeiriau gwirioneddol eiconig yr Eisteddfod. Mae'n ddarn prydferth a grëwyd drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ym maes argraffu 3D. Rwy'n annog pobl i ddod i'w gweld, nid yn unig i gofio Hedd Wyn, ond i goffáu'r meirwon hefyd.

"Hoffwn hefyd longyfarch Prifysgol Caerdydd am ddangos sut mae Cymru ar flaen y gad o ran defnyddio technoleg arloesol i ddod â hanes yn fyw."

Meddai Rob Aldridge, Rheolwr Gyfarwyddwr Drumlord Ltd: "Roedd hwn yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono a rhoddodd y cyfle i ni ddangos sut gellir cyfuno'r technolegau diweddaraf â thechnegau traddodiadol sydd wedi ennill eu plwyf, i greu modelau o'r radd flaenaf. 

"Does dim dwywaith fod y gadair wreiddiol yn rhan annatod o hanes diwylliannol Cymru. Mae'r copi yn gyfeiriad parchus at orffennol cyfoethog a phwysig, ond mae hefyd yn edrych yn gadarn tuag at y dyfodol."

Bydd y gadair i'w gweld yn y Senedd tan ddiwedd mis Mawrth, a chaiff ei defnyddio wedi hynny i ddehongli hanes Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Rhannu’r stori hon