Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2018
8 Mehefin 2017
Mae Prifysgol Caerdydd wedi codi tri safle mewn rhestr nodedig o brifysgolion gorau'r byd.
Cafodd Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2018, sydd bellach yn ei 14eg flwyddyn, ei chyhoeddi heddiw (dydd Iau 8 Mehefin, 2017), ac mae Prifysgol Caerdydd yn safle 137 o blith y 959 o brifysgolion gorau'r byd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn dal i fod yn y safle uchaf o blith prifysgolion Cymru, a'r 22ain o blith y 76 o brifysgolion y DU ar y rhestr.
Mynd yn groes i'r duedd yn y DU
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd safle uwch ar Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2018, o ystyried yr ansicrwydd a'r heriau enfawr y mae prifysgolion y DU wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Yng nghyd-destun y DU, roedd 11 o blith yr 16 o sefydliadau yng Ngrŵp Russell mewn safle is nag o'r blaen, ynghyd â 51 o'r 76 o brifysgolion y DU ar y rhestr.
“Rydym yn arbennig o falch, felly, i weld ein bod wedi mynd yn groes i'r duedd yn y DU, er gwaethaf yr holl ansicrwydd y bu'n rhaid i ni ei wynebu, a'n bod wedi llwyddo i wneud cam bach, ond cam pwysig, tuag i fyny.”
Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yw'r canllaw diffiniol i brifysgolion gorau'r byd.
Cyfrannodd barn arbenigol 75,015 o academyddion a 40,455 o gyflogwyr, gyda 12.3m o bapurau a 75.1m o ddyfyniadau, eu dadansoddi o gronfa ddata fibliometrig Scopus/Elsevier, er mwyn mesur effaith yr ymchwil a gynhyrchir gan y prifysgolion ar y rhestr.
Nod Prifysgol Caerdydd
Nod Prifysgol Caerdydd yw bod ymhlith y 100 o brifysgolion gorau'r byd.
Ychwanegodd yr Athro Riordan: “Ein nod yw cael ein cynnwys yn gyson o fewn y 100 o brifysgolion gorau'r byd. Wrth gwrs, mae bob amser lle i wella, ac mae cynnal ein safle byd-eang o ran addysgu, ymchwil ac arloesedd yn golygu bod yn rhaid i ni barhau i fuddsoddi a gweithio'n galed...”
Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd ar ôl i Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc gael ei gyhoeddi'n gynharach eleni.
Newyddiaduraeth oedd y pwnc yn y safle uchaf ym Mhrifysgol Caerdydd (safle 34), sy'n rhoi'r Brifysgol ymhlith y 50 o brifysgolion gorau'r byd ar gyfer pwnc Astudiaethau Cyfathrebu a'r Cyfryngau am y tro cyntaf.
Ymhlith pynciau eraill y Brifysgol a gafodd le amlwg yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn 2017 roedd Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig (safle 39) a Seicoleg (safle 43).
Cafodd pynciau Prifysgol Caerdydd le mewn cyfanswm o 30 o’r 46 o bynciau, ac ym mhob un o’r pum cyfleuster sy’n cael eu cynnwys yn y rhestr. Roedd deg pwnc yn y 100 uchaf, o gymharu ag wyth yn 2016, ac mae 23 o bynciau yn y 200 uchaf, o gymharu â 22 y llynedd.