Gwyddoniaeth a'r Cynulliad
7 Mehefin 2017
Yn rhan o ddigwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth a'r Cynulliad, mae dau o brif sefydliadau ymchwil y Brifysgol wedi arddangos eu gwaith ymchwil diweddar i lunwyr polisïau, gwleidyddion a'r cyhoedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Nod y digwyddiad yw meithrin cysylltiadau agosach gyda’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a arweiniodd y digwyddiad, ac fe'i trefnwyd ar ran cymuned Gwyddoniaeth a Pheirianneg Cymru ac mewn cydweithrediad â nhw.
Dyma’r drydedd blynedd ar ddeg i’r digwyddiad gael ei gynna a’i thema eleni oedd ymwrthedd Gwrthficrobaidd ac roedd yn llawn arddangosfeydd, cyflwyniadau ac areithiau. Roeddynt yn tynnu sylw at sut y mae sail gwyddoniaeth a thechnoleg Cymru yn helpu wrth fynd i'r afael ag un o'r bygythiadau byd-eang mwyaf difrifol i iechyd pobl yn yr 21ain ganrif.
Arbenigedd blaenllaw
Aeth Maria Mendes De Carvalho, Brekhna Hassan a chydweithwyr eraill i’r digwyddiad i arddangos gwaith Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau y Brifysgol. Mae'r gwaith yn tynnu ar arbenigedd blaenllaw ar draws y Brifysgol ym maes heintiau, imiwnedd a data mawr er mwyn helpu i ddatblygu systemau diagnosis, therapïau a brechlynnau newydd.
Cafodd y rhai a ymwelodd â'r arddangosfa glywed am BARNARDS (Burden of Antibiotic Resistance in Neonates from Developing Societies), sef prosiect a ariennir gan Sefydliad Bill a Melinda Gates. Nod y prosiect yw ymchwilio effeithiau ymwrthedd i wrthfiotigau ar y gyfradd morbidrwydd ymhlith y newydd-anedig mewn mannau fel Affrica a De Asia. Gyda phartneriaid ymchwil rhyngwladol yn Nigeria, Pacistan, Rwanda, Bangladesh, De Affrica, Ethiopia ac India, mae'r Brifysgol yn arwain ar y prosiect sydd hefyd â'r nod o ddod i atebion posibl er mwyn lleihau'r effeithiau hyn, yn enwedig wrth ystyried sepsis mewn babanod hunan-anedig.
Technoleg gynaliadwy yn y 21ain ganrif
Roedd ymchwilwyr o Sefydliad Catalysis Caerdydd y Brifysgol hefyd yn rhan o'r arddangosfa, ac roeddynt yn arddangos y gwaith ymchwil blaenllaw a gynhelir yn y Brifysgol i wella'r ddealltwriaeth o gatalysis, datblygu prosesau catalytig newydd gyda diwydiant, a hyrwyddo'r defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn y 21ain ganrif.
Roedd Dr Lovleen T Joshi o'r Ysgol Fferylliaeth a'r Athro Eshwar Mahenthiralingam o Ysgol y Biowyddorau ymhlith y prif siaradwyr. Cadeiriwyd trafodaeth banel yn y prynhawn gan yr Athro Peter Knowles, Athro Cemeg Ddamcaniaethol ar wrthfiotegau newydd a dewisiadau amgen.
Noddwyd y digwyddiad gan David Rees AC, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar STEMM, a chefnogwyd y digwyddiad gan gynrychiolwyr o'r holl bleidiau gwleidyddol. Trefnwyd y digwyddiad hefyd gyda nifer o sefydliadau tebyg. Mae'r rhain yn cynnwys Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Gymdeithas Frenhinol, y Sefydliad Ffiseg, Cymdeithas Frenhinol Bioleg, y Gymdeithas Microbioleg, Academi'r Gwyddorau Meddygol, Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain, Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru, Canolfan Ragoriaeth Bioburo Beacon, y Gymdeithas Ffisiolegol, y Gymdeithas Ddaearegol, Gwobr Longitude a Sefydliad y Peirianwyr Sifil.