Gwobrau Myfyrwyr Merched mewn Eiddo
6 Mehefin 2017
Myfyrwraig yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Fatima Moreno Viera’n ennill Cymeradwyaeth Uchel yng Ngwobr Myfyrwyr Merched mewn Eiddo De Cymru.
Cafodd Fatima, sy’n astudio am radd Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, sy’n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, ei henwebu am y wobr gan ei darlithydd, yr Athro Richard Cowell.
Yn siarad am y wobr meddai Fatima: “Rwy’n falch iawn gan taw fi oedd y person ieuengaf i gyrraedd y rownd derfynol a’r unig un nad oedd yn astudio gradd a oedd yn canolbwyntio’n llwyr ar arolygu. Mae’r profiad hwn wedi rhoi cyfle imi rwydweithio â gweithwyr proffesiynol rhanbarthol a chreu llawer o gyfleoedd posibl yn y dyfodol. Roedd yn werth chweil.”
Dywedodd Richard: “Dwi wrth fy modd dros Fatima. Hi oedd y fyfyrwraig orau yn ei charfan ac mae eisoes wedi dangos ymrwymiad cryf i broffesiynau’r amgylchedd adeiledig gan gynnwys blwyddyn yn y diwydiant yn y Labordy Cynllunio a Phensaernïaeth yn Gran Canaria, Sbaen.”
Dywedodd Nicola Jones, Cadeirydd WiP De Cymru, “Mae’r Gwobrau hyn yn ceisio dod o hyd i’r myfyrwyr mwyaf talentog sy’n astudio cyrsiau’r amgylchedd adeiledig, a all gynnwys cynllunio i arolygu, pensaernïaeth i beirianneg, rheoli prosiect i gyllid eiddo, felly sbectrwm eang o ddisgyblaethau.
“Y nod yw codi safonau drwy herio myfyrwyr i werthuso eu pwnc, sut maen nhw’n gobeithio datblygu at yrfa a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar y daith. Gwnaeth pawb a gyrhaeddodd rownd derfynol eleni’n dda iawn a llongyfarchiadau i bob un.”
Cafodd prifysgolion eu gwahodd i enwebu eu myfyrwyr gorau o gyrsiau gradd yr amgylchedd adeiledig gyda 44 Prifysgol yn cymryd rhan yn 2017.
Caiff yr enillydd cenedlaethol ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ffurfiol yn Claridge’s ar 20 Medi.