Cipolwg ar Waith Gwyddonwyr yn Jyngl Borneo
2 Mehefin 2017
Cyfres newydd yn arddangos Canolfan Maes Danau Girang a'r gwyddonwyr sy'n ceisio diogelu bywyd gwyllt Borneo.
Yn ddwfn yng nghanol jyngl Borneo mae cyfleuster anghysbell: Canolfan Maes Danau Girang. Mae'r cyfleuster cydweithredol hwn ar gyfer ymchwil a hyfforddiant, a reolir gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Phrifysgol Caerdydd, ac yn cynnwys tîm o wyddonwyr ymchwil o Falaysia ac o wledydd eraill ledled y byd, ac yn gartref dros dro i fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n mynd ar Gwrs Maes Bioamrywiaeth y Brifysgol.
Mae cenhadaeth bwysig ymchwilwyr Danau Girang, sef monitro a gwarchod ecosystem drofannol unigryw, ar fin cael ei arddangos mewn cyfres newydd 10-rhan, fydd yn cael ei harddangos ar dudalen Facebook Danau Girang ac ar Scubazoo.tv.
Mae 'Borneo Jungle Diaries' yn rhoi cipolwg ar fywyd y tu ôl i'r llenni yn y Ganolfan. Mae'r newyddiadurwr ffotograffig amgylcheddol, Aaron 'Bertie' Gekoski yn dilyn gwyddonydd ac anifail gwahanol ym mhob episod, a'u dangos yn: tagio pangolin Sunda am y tro cyntaf; dal babanod crocodeilod a pheithoniaid enfawr yn y nos; arsylwi'n agos ar ymddygiad primatiaid nosol; olrhain haid o eliffantod, a llawer mwy.
"Rwy'n gobeithio y bydd y gyfres hon yn denu llawer o fyfyrwyr i Ganolfan Maes Danau Girang ac yn codi ymwybyddiaeth o'r bywyd gwyllt anhygoel yn ardal Kinabatangan, a pha mor bwysig yw gwarchod yr ecosystem hon," dywedodd Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr y Ganolfan a Darlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.
Bydd yr episod cyntaf yn cael ei ddangos ddydd Llun 5 Mehefin i gyd-fynd â Diwrnod Amgylchedd y Byd, a bydd yr episodau nesaf yn cael eu rhyddhau bob dydd Llun am 9 wythnos, hyd at yr episod olaf ddydd Llun 7 Awst.