Gwobrau yn dathlu pŵer partneriaethau
5 Mehefin 2017
Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu pum prosiect cydweithio creadigol gyda busnesau, y llywodraeth a'r gymuned.
Mae Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2017 y Brifysgol yn amlygu’r partneriaethau rhwng academyddion a chyrff allanol.
Dewiswyd y prosiectau buddugol ar gyfer Seremoni Gwobrau Arloesedd ac Effaith blynyddol y Brifysgol a gynhelir ymhen tair wythnos.
Ac mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfle i bawb bleidleisio ar gyfer Gwobr 'Dewis y Bobl' drwy ddewis eu ffefryn o blith y pum enillydd terfynol.
Bydd yr enillydd yn cael iPad Mini 2. Byddant yn cael eu gwahodd i gwrdd â thîm 'Dewis y Bobl' cyn ymuno â nhw ar gyfer y cinio a'r seremoni fawreddog ddydd Llun 26 Mehefin.
Wrth siarad am y pum prosiect sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae arloesedd ac ymgysylltu yn elfennau hanfodol yn ein cenhadaeth ddinesig ac maent yn rhan ganolog o’n strategaeth ochr yn ochr ag ymchwil ac addysgu. Rydym yn ymfalchïo yn ein staff ac yn ymwybodol o ba mor galed ac effeithiol y maent yn gweithio. O ganlyniad i'w hymdrechion, rydym yn yr 2il safle yng Ngrŵp Russell am incwm eiddo deallusol ac yn gyfrifol am 98% o’r incwm eiddo deallusol a gynhyrchir gan brifysgolion Cymru."
Dywedodd David Baynes, Prif Swyddog Gweithredu, IP Group plc: "Pleser o’r mwyaf yw noddi'r Gwobrau Arloesedd ac Effaith. Drwy ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, rydym wedi gweld y safonau sydd ganddynt ar waith, gan helpu i greu nifer o gwmnïau cyffrous newydd.
Dywedodd Emyr Lewis, Blake Morgan LLP: "Mae arloesedd yn hanfodol ar gyfer economi sy’n ffynnu mewn cymdeithas deg. Mae gan brifysgolion rôl allweddol wrth wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Rydym wedi cael y fraint o gynghori Prifysgol Caerdydd am rai o'u prosiectau arloesedd blaengar, ac mae’n bleser gennym gefnogi'r digwyddiad."
Dywedodd Dr Julie Fyles, Cyfarwyddwr Symbiosis IP Ltd: "Mae'n fraint cydweithio â Phrifysgol Caerdydd sydd â rôl hollbwysig yn yr economi wybodaeth." Mae digwyddiadau tebyg yn dangos y gwahaniaeth hanfodol mae'r Brifysgol yn ei wneud yn y gymuned."
Trefnir y Gwobrau Arloesedd ac Effaith gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ddau ddegawd.