Datblygu, diogelwch a'r cefnforoedd
31 Mai 2017
Mae digwyddiad rhwydweithio i ddathlu Dydd Cefnforoedd y Byd wedi'i drefnu gan Brifysgol Caerdydd.
Mae Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol wedi ymuno â'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy i gynnal digwyddiad prynhawn wedi'i noddi gan Raglen Datblygu Cynaliadwy yr Academi Brydeinig. Bydd y digwyddiad yn edrych ar y berthynas bwysig, ond nad yw wedi'i datblygu'n helaeth eto, rhwng datblygu'r cefnfor, llywodraethu a diogelwch morwrol a datblygiad cynaliadwy cymunedau'r arfordir a'r ynysoedd.
Daw'r digwyddiad ag arbenigedd Prifysgol Caerdydd mewn materion morwrol a pholisi ecolegol-gymdeithasol at ei gilydd a bydd yn cynnwys siaradwyr o gefndiroedd gorfodi'r gyfraith, diogelwch a datblygu cynaliadwy. Bydd yn hwyluso trafodaeth ar ganlyniadau ymchwil diweddar yn ogystal â chynnig cyfle rhwydweithio i ymchwilwyr yn y rhanbarth sydd â diddordeb mewn ymchwil morwrol, yr ynysoedd a'r parth arfordirol o amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Dywedodd Dr Christian Bueger o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'r economi las a diogelwch morwrol yn ddwy ochr o'r un geiniog, a thra bo'r cyntaf yn tynnu sylw at gyfleoedd y môr, mae'r ail yn pwysleisio ei beryglon a'i enbydrwydd. Boed yn dwristiaeth, ffermydd gwynt, pysgota neu lwyfannau olew all-forol, mae angen amgylchedd diogel heb fygythiad o weithgarwch troseddol."
Dywedodd yr Athro Susan Baker o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, sy'n cyd-drefnu'r digwyddiad: "Mae ein hymchwil cyfunol yn amlygu pwysigrwydd talu sylw i'r angen i hyrwyddo dyfodol cynaliadwy i gymunedau sy'n dibynnu ar adnoddau'r cefnforoedd ar gyfer eu lles."
Mae deall y berthynas diogelwch-datblygu ar y môr yn hanfodol ar gyfer gwireddu nodau Nod Datblygu Cynaliadwy 14, sy'n ceisio hybu defnydd cynaliadwy o gefnforoedd, moroedd ac adnoddau morwrol y byd drwy gadwraeth a datblygu cynaliadwy.
Fel mae'r ymchwil sydd wedi'i wneud yng Nghaerdydd yn dangos, mewn mannau morwrol fel gorllewin Cefnfor yr India, mae gweithgarwch troseddol fel pysgota anghyfreithlon yn niweidio cyfleoedd i ddatblygu adnoddau cefnforol Somalia’n gynaliadwy, gan ddarparu cyfiawnhad dros fôr-ladrad mewn cymunedau arfordirol difreintiedig a thanseilio ymddiriedaeth mewn sefydliadau cenedlaethol ac ymdrechion rhyngwladol i adeiladu capasiti. Felly, mae'n hanfodol fod y ddau agenda'n cael eu hystyried gyda'i gilydd. Bydd hyn yn agor llwybr at gydweithio o'r newydd ac yn cyfrannu at reolaeth fwy diogel a mwy cynaliadwy o adnoddau cefnforoedd y byd a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy i gymunedau’r ynysoedd a’r arfordir.
Cynhelir y Dydd Cefnforoedd Rhyngwladol blynyddol, a ddechreuwyd yn 1992, ar 8 Mehefin eleni gyda'r thema "Ein Cefnforoedd, Ein Dyfodol". Fe'i cynhelir rhwng 2pm a 7pm yn Siambr y Cyngor, y Adeilad Morgannwg. Mae llefydd am ddim a gellir eu cadw yma.