Gwobr am ‘gyffur gwymon’ sy’n ymladd clefydau
6 Mehefin 2017
Mae cyffur a ddatblygwyd o wymon sy’n helpu i ymladd heintiau wedi ennill gwobr arloesi.
Canfu ymchwilwyr fod alignatau - sydd i’w cael mewn gwymon - yn gallu ymladd heintiau sy’n gwrthsefyll nifer o gyffuriau.
Gan weithio gyda’r cwmni biofferyllol o Norwy Algipharma, dangosodd tîm dan arweiniad yr Athro David Thomas o’r Ysgol Deintyddiaeth sut y gallai alignatau amharu ar allu bioffilmau microbaidd i ffurfio.
Enillodd y prosiect y Wobr Arloesedd Meddygol yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.
Dywedodd yr Athro Thomas: “Galluogodd ein hymchwil i ni gyrchu deunydd naturiol sydd â gallu sylweddol i addasu ymddygiad bacteria, gan eu gwneud yn fwy agored i driniaethau gwrthfiotig, ac i wella nodweddion mwcws mewn cleifion â chlefyd yr ysgyfaint..."
Dechreuodd y prosiect gyda grant bach gan Algipharma yn 2007 at astudiaethau microbioleg rhagarweiniol, ond datblygodd yn naw mlynedd o gydweithio rhwng Grŵp Therapïau Datblygedig (GTD) y Brifysgol, Algipharma a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Helpodd rhwydwaith cydweithredol y GTD ddenu ymchwilwyr ag arbenigeddau mewn meysydd penodol, gan fraenaru’r tir ar gyfer cynnal astudiaethau clinigol ar bobl ledled y DU a Sgandinafia.
Mae’r prosiect wedi dal i ennill cyllid ymchwil sylweddol, gan gynhyrchu nifer fawr o bapurau academaidd blaenllaw, ac ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd Phil Rye, Cyfarwyddwr YaD Algipharma: “Mae’r cydweithio hwn wedi ein galluogi i gymryd camau sylweddol at ddatblygu cyffur newydd, sydd bellach yn cael ei brofi ar bobl drwy astudiaethau clinigol, ac yn ddiweddar penderfynodd Sefydliad Ffibrosis Systig UDA ddechrau ei ddatblygu..."
Gan ddefnyddio gwybodaeth am sut mae’r alginad yn gweithio, mae gwyddonwyr hefyd wedi datblygu therapi anadlol newydd sy’n cael ei brofi ar gleifion sydd â ffibrosis systig i helpu i glirio mwcws yn eu hysgyfaint ac o bosibl arafu’r clefyd.
Os yw’n llwyddo, gallai hefyd gael ei ddefnyddio gyda chlefydau anadlol mwy cyffredin fel Clefyd Pwlmonaidd Ataliol Cronig, y credir ei fod yn effeithio ar dros filiwn o bobl yn y DU.
Mae’r astudiaethau hefyd yn braenaru’r tir at wella triniaethau i anafiadau croen cronig nad ydynt yn gwella, ac ymladd organeddau sy’n achosi cyflyrau fel clefydau’r deintgig.