Stiwdio Cyfansoddwyr Gyntaf Peter Reynolds yn croesawu cyfansoddwyr ifanc
30 Mai 2017
Cynhaliwyd Stiwdio Cyfansoddwyr Peter Reynolds am y tro cyntaf yn ddiweddar yn ystod Gŵyl Bro Morgannwg.
O dan gyfarwyddyd artistig y cyfansoddwr a sylfaenydd yr ŵyl, John Metcalf, ac uwch ddarlithydd mewn cyfansoddi yn Ysgol Gerdd Prifysgol Caerdydd, Robert Fokkens, daeth wyth o gyfansoddwyr ifanc at ei gilydd ar gyfer cyfres o weithdai a dosbarthiadau.
Bu’r cyfansoddwyr a ddewiswyd, oedd yn cynnwys y graddedigion o Gaerdydd David Roche, Lucy McPhee, Anselm McDonnell, Jordan Hirst, Yfat Soul Zisso a Nathan James Dearden, ynghyd â Sam Messer a William Marsey, yn cymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial un-i-un, sgyrsiau a seminarau, ac yn cael cyfle i gyfansoddi ar gyfer ensemble proffesiynol blaenllaw.
Diweddglo’r Stiwdio oedd bod y cyfansoddwyr yn creu gweithiau ar gyfer un o ddau ensemble, Grand Band a Thriawd Marsyas, a gafodd eu perfformio’n fyw wedyn o flaen cynulleidfaoedd.
Dyma ddywedodd David Roche am y profiad: "Mae mor anghyffredin cael ensemble sydd mor eithriadol fedrus yn gweithio mor galed ar eich cyfansoddiad. Mae Grand Band yn gerddorion gwych dros ben, sy’n ymgysylltu â’r gwaith - roedd eu hadborth yn ymarferol ac yn fanwl, ac roedd eu perfformiadau’n ardderchog.
"Roedd yn gymaint o hwyl ysgrifennu ar gyfer chwe phiano - rydw i wedi bod yn eisiau cyfansoddi ar gyfer yr ensemble yna ers oesoedd, ac rwy’n falch iawn mod i wedi cael cyfle i wneud hynny.”
Dywedodd Lucy McPhee, myfyriwr sydd wrthi ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei gradd Meistr mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fe wnes i fwynhau fy mhrofiad gyda Stiwdio Cyfansoddwyr Peter Reynolds yn aruthrol. Fe gawson ni lawer o seminarau diddorol oedd yn herio sut rwy’n cyfansoddi ac yn meddwl am gyfansoddi. Roedd yn anhygoel bod ensemble Grand Band yn chwarae un o’m darnau, ac alla i ddim aros i glywed canlyniad y recordiadau."
Enwyd y Stiwdio Cyfansoddwyr i ddathlu bywyd y cyfansoddwr Peter Reynolds a fu farw’n sydyn yn 2016. Roedd Peter wedi bod mewn cysylltiad â Gŵyl Bro Morgannwg ers cyfnod hir, ac adeg ei farwolaeth roedd yn gweithio ar gomisiwn arbennig ar gyfer Gŵyl 2017, sef ffanffer cyrn ceir.
Gŵyl Bro Morgannwg, sy’n cael ei hystyried yn gyffredinol fel un o’r gwyliau mwyaf unigryw a mentrus ym Mhrydain Fawr, yw’r unig ŵyl gerddoriaeth glasurol yn y Deyrnas Unedig sydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth cyfansoddwyr byw.