Rhedeg yn ôl-troed y goreuon
30 Mai 2017
Bydd ymchwil Prifysgol Caerdydd yn archwilio effaith Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Wrth i 170,000 o gefnogwyr pêl-droed ddod i’r ddinas i Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017, bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i sut mae cefnogwyr sy’n mynd i rowndiau terfynol y dynion a’r merched yn teithio i’r brifddinas a faint o arian y byddant yn ei wario. Mae cefnogwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg sy’n cael ei gynnal gan dîm o 14 o arolygwyr hyfforddedig fel rhan o gynllun ymchwil Prifysgol Caerdydd i fyfyrwyr israddedig.
Mae Dr Andrea Collins, prif ymchwilydd yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi cyflawni astudiaethau tebyg mewn digwyddiadau chwaraeon mawr a gynhaliwyd yng Nghymru gan gynnwys Rownd Derfynol Cwpan yr FA, Rygbi’r Chwe Gwlad a Grand Depart y Tour de France yn Llundain. Yn siarad am ei hymchwil dywedodd Andrea: “Mae ein hastudiaethau wedi dangos yn gyson fod y ffordd y mae cefnogwyr yn teithio i ddigwyddiadau yn cael effaith amgylcheddol sylweddol. Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi dealltwriaeth well i ni o broffiliau cefnogwyr, eu patrymau gwario a’u dewisiadau teithio. Bydd yn galluogi trefnwyr digwyddiadau yn y dyfodol yng Nghaerdydd a thu hwnt i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth effeithiol ac annog cefnogwyr i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy”.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon fel rhan Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP). Mae’r rhaglen yn cynnig grant i fyfyrwyr am hyd at wyth wythnos i gymryd rhan ar leoliad dros yr haf gan weithio gyda goruchwylwyr ar brosiectau ymchwil.
Mae ein prosiectau yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr gael blas ar ymchwil fyw, gwella’u sgiliau academaidd a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch ymchwilio ymhellach ar lefel ôl-raddedig.
Erbyn hyn, mae’r Rhaglen yn cael ei hystyried yn un o'r cynlluniau ymchwil mwyaf i israddedigion yn y DU. Mae tua 500 o fyfyrwyr wedi manteisio ar leoliadau ers 2008, gan weithio ar brosiectau mor amrywiol â gwaith archifol hanesyddol, chwilio am blanedau newydd ac ymchwil i ganser.