Gall adfywio cymdogaethau difreintiedig wella iechyd meddwl y trigolion
26 Mai 2017
Daw ymchwil gan Brifysgol Caerdydd i’r casgliad y gall adfywio cymdogaethau difreintiedig dan arweiniad y gymuned wella iechyd meddwl y trigolion.
Yn ôl yr astudiaeth - un o’r rhai cyntaf yn y byd i fesur y newidiadau i iechyd meddwl yn ystod gwaith adfywio’r gymdogaeth - bu newid bach ond mesuradwy i iechyd meddwl y trigolion yn ardaloedd Bwrdeistref Sirol Caerffili lle gwnaed gwaith adfywio yno dan arweiniad y gymuned. Roedd hyn yn cymharu’r trigolion ag ardal na chafodd ei hadfywio. Roedd hyn yn cyfateb i un o bob tri o drigolion mewn ardaloedd adfywio yn nodi bod eu symptomau’n well.
Gwelwyd hefyd gysylltiad amlwg rhwng yr amser a fuodd y trigolion yn byw yno ag iechyd meddwl. Awgryma hyn mai’r hiraf y mae person yn byw mewn ardal sy’n cael ei hadfywio, y mwyaf y gwnaeth ei hiechyd meddwl nhw wella.
Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf oedd y rhaglen adfywio cymdogaethol a werthuswyd. Menter gan Lywodraeth Cymru yw hon i leihau lefelau tlodi mewn 100 o’r 881 o wardiau etholiadol mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Y Deyrnas Unedig). Gan ddefnyddio data dienw o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, meddygfeydd teulu ac astudiaethau blaenorol, astudiwyd 10,892 o drigolion o ardaloedd oedd wedi cael arian adfywio gan y fenter Cymunedau yn Gyntaf, a’r rhai hynny nad oedd wedi cael cymorth o’r fath. Dilynwyd y bobl yma am gyfnod o saith mlynedd (2001 hyd 2008).
Yn ôl arweinydd yr ymchwil, Dr James White, Uwch-ddarlithydd ym maes Iechyd Cyhoeddus yn y Ganolfan Treialon Ymchwil a Chanolfan DECIPHer: “Ni ddylid gorbwysleisio arwyddocâd yr ymchwil hon. Caiff biliynau o ddoleri eu gwario ar brosiectau adfywio ledled y byd, ac ychydig iawn sydd wedi’u gwerthuso...”
“Gwelsom fod Cymunedau yn Gyntaf yn lleihau’r blwch rhwng iechyd meddwl y bobl sy’n byw yn y cymdogaethau mwy difreintiedig a’r rhai sy’n byw mewn mannau llai difreintiedig.”
Yn ystod cyfnod yr astudiaeth (2001 hyd 2008), cwblhawyd 1,500 o brosiectau adfywio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili (Cymru, y Deyrnas Unedig) yn rhan o raglen Cymunedau yn Gyntaf. Costiodd hyn £82,857,180.
Roedd y math o brosiectau adfywio’n amrywiol, ac yn cynnwys:
- troseddu: gosod goleuadau stryd;
- addysg: mwy o gynorthwywyr addysgu;
- iechyd; darparu offer chwaraeon;
- tai a’r amgylchedd ffisegol: gwneud gwaith cynnal a chadw ar dai ac atgyweirio, ailddatblygu tir gwastraff;
- cymorth busnes a hyfforddiant galwedigaethol: rhoi sgiliau cyfrifiadurol a hyfforddiant i bobl ddi-waith;
- y gymuned: adeiladu canolfannau cymunedol.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd bod y nodweddion canlynol yn fwy cyffredin ymysg trigolion yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf cyn y gwaith adfywio: diweithdra (3.2% o’i gymharu â 2.5%), salwch neu anabledd (17.1% o’i gymharu â 10.6%), byw mewn llety rhent (25.8% o’i gymharu ag 14.7%), a byw mewn tlodi (58.8% o’i gymharu â 43.9%).
Ychwanegodd Dr White: “Mae’r rhaglen adfywio Cymunedau yn Gyntaf a werthuswyd gennym yn unigryw gan mai’r bobl oedd yn byw yn y gymuned, yn hytrach na chynghorau lleol neu lywodraethau, wnaeth adnabod yr ardaloedd a oedd angen eu hadfywio. Canlyniad y canfyddiad hwn, o ran llunio polisi, yw bod gwaith adfywio sydd wedi’i dargedu a’i arwain gan y preswylwyr yn y cymunedau trefol difreintiedig yn gallu lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd meddwl.”
Mae’r awduron yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn llywio polisïau er mwyn gwella iechyd meddwl a lleihau’r anghydraddoldebau ym maes iechyd meddwl ar lefel y boblogaeth.
Cyhoeddir yr astudiaeth ‘Improving Mental Health through the Regeneration of Deprived Neighbourhoods: A Natural Experiment’ yn yr American Journal of Epidemiology.