Partneriaeth â Gŵyl
25 Mai 2017
![The Mountain Stage at Green Man Festival](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/760711/The-Mountain-Stage-at-Green-Man-Festival-16x9.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae dau o brif sefydliadau Cymru, Prifysgol Caerdydd a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cydweithio. Bydd Prifysgol Caerdydd a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ehangu eu partneriaeth bresennol drwy ystyried cyfleoedd pellach i gynnig interniaethau i fyfyrwyr, digwyddiadau ymgysylltu ac ymchwil wyddonol.
Llofnodwyd memorandwm cyd-ddealltwriaeth ddydd Iau 25 Mai mewn derbyniad busnes Cymreig yng Ngŵyl Gwrw a Seidr y Dyn Gwyrdd, Y Buarth, gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
![Fiona Stewart and Professor Colin Riordan signing MoU](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/762495/Fiona-Stewart-and-Professor-Colin-Riordan-signing-MoU.jpg?w=575&ar=16:9)
Gardd Einstein
Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn bresennol yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ers blynyddoedd, gan gynnwys archeoleg 'gerila', ac arbrofion niwrowyddoniaeth addysgol, ac mae'n rhan o'r gweithgareddau gwyddonol a gynigir yn yr ŵyl – Gardd Einstein.
Mae'r ddau sefydliad yn chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo Cymru'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, denu partneriaethau ac ymwelwyr, creu swyddi, cyfleoedd busnes, a chyfoeth yn yr economi.
Mewn ymchwil gan UK Music yn 2015, disgrifiwyd Gŵyl y Dyn Gwyrdd fel enghraifft wych o ŵyl sy'n creu cyfoeth, a nodwyd ei bod yn chwarae rhan flaenllaw o ran sbarduno twristiaeth cerddoriaeth ledled y DU, ac yn gwneud cyfraniad allweddol at y £95m sy'n cael ei wario'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o ganlyniad i dwristiaeth cerddoriaeth yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Fel sefydliadau blaenllaw yn ein sectorau yng Nghymru, rwy'n croesawu'r cyfle i ehangu'r bartneriaeth hon...”
![Sara Pepper, Professor Colin Riordan, Fiona Stewart and Professor Ian Hargreaves at Courtyard Beer Festival](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/762498/Sara-Pepper,-Professor-Colin-Riordan,-Fiona-Stewart-and-Professor-Ian-Hargreaves-at-Courtyard-Beer-Festival.jpg?w=575&ar=16:9)
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0018/530901/VC-Prof.-Colin-Riordan-Square.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Byddwn yn cydweithio ar nifer o wahanol feysydd o ddiddordeb strategol gyda'r nod o wella'r ddau sefydliad. Rwy'n gobeithio y bydd hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd defnyddiol i'n staff a myfyrwyr.”
Dywedodd Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd: “Rydym wedi datblygu prosiectau anhygoel gyda Phrifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd, ac wedi mwynhau hynny mas draw, felly mae ehangu ein partneriaeth yn gam naturiol...”
“Mae Green Man yn gweithio gyda phobl eithriadol o dalentog, ac mae Prifysgol Caerdydd yn un o'r prifysgolion uchaf eu parch yn y byd, felly mae'n ticio pob blwch.”