Dirprwy Is-Ganghellor Newydd
25 Mai 2017
Bydd yr Athro Baxter yn cymryd cyfrifoldeb am Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd gan ddilyn yr Athro Dylan Jones sy'n rhoi'r gorau i'r swydd i ganolbwyntio ar ei ymchwil.
Am y saith blynedd ddiwethaf, mae'r Athro Baxter wedi bod yn Bennaeth yr Ysgol Fferylliaeth.
Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae'r Athro Baxter yn academydd nodedig sydd â hanes rhagorol yn arwain yr Ysgol Fferylliaeth...”
Ychwanegodd yr Athro Dylan Jones: “Rwyf wrth fy modd bod yr Athro Gary Baxter am fy olynu i fel Dirprwy Is-Ganghellor. Bydd yn defnyddio ei brofiad helaeth o gynnal ysgol hynod lwyddiannus dros nifer o flynyddoedd. Gall gynnig dealltwriaeth ddofn o’r ystod hynod eang o feysydd ymchwil a geir ym maes biofeddygol yn ogystal ag arbenigedd mewn hyfforddi myfyrwyr ar bob lefel, yn enwedig ar gyfer eu rôl glinigol a’u cyfrifoldebau proffesiynol...”
Dywedodd yr Athro Baxter: “Rwyf i wrth fy modd i gael fy mhenodi i arwain Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd fel Dirprwy Is-Ganghellor newydd. Ein Coleg yw un o'r cyfadrannau bioleg, gofal iechyd a gwyddor feddygol mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y DU.
“Dan arweiniad yr Athro Dylan Jones, mae sylfeini cadarn y Coleg wedi'u gosod ac rydym ni wedi cyflawni llwyddiannau eithriadol. Rwyf i am i ni adeiladu ar y cyflawniadau hyn i sicrhau cydnabyddiaeth fyd-eang i Gaerdydd fel canolfan addysg ac ymchwil arweiniol mewn gwyddor fiolegol, biofeddygaeth, ymarfer clinigol a chanlyniadau iechyd.
“Rwyf i'n llawn cyffro wrth edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr, cydweithwyr yn y Coleg, ysgolion academaidd a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol. Rwyf i'n edrych ymlaen yn arbennig at ymgysylltu â GIG Cymru a'n partneriaid a rhanddeiliaid niferus eraill y tu allan i'r Brifysgol...”
“Mae'n fraint cael arwain yr uchelgais hwn ar ran y Brifysgol.”
Fel rhan o rôl y Dirprwy Is-Ganghellor, bydd yr Athro Baxter yn gyfrifol am reoli ac arwain Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bennu strategaeth a chyfeiriad y Coleg, ac o hybu datblygiad dysgu, addysgu a rhagoriaeth ymchwil.
Cymhwysodd yr Athro Baxter yn wreiddiol mewn fferylliaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac Ysbyty Brenhinol Llundain. Ar ôl cyfnod mewn ymarfer clinigol mewn ysbytai yn East Anglia, aeth ymlaen i ymgymryd â hyfforddiant ymchwil mewn ffarmacoleg arbrofol. Dyfarnwyd ei PhD yn 1992 am ymchwil ar aflonyddwch rhythm y galon mewn pwysedd gwaed uchel.
Mae'r Athro Baxter wedi ennill Gwobr Bowman Cymdeithas Fferyllol Prydain a Gwobr Naranjan Dhalla yr Academi Gwyddorau Cardiofasgwlaidd Ryngwladol, ac wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Ewrop Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil y Galon ac ar gyngor Cymdeithas Ewropeaidd Cardioleg a'r Gweithgor ar Fioleg Celloedd y Galon 2004-2009.
Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, roedd yr Athro Baxter yn Gymrawd Ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon yn Athrofa Gardiofasgwlaidd Hatter a'r Adran Ffisioleg yn UCL. Ar ôl cyfnod yng Nghanolfan y Galon Cape yn Ne Affrica, fe'i penodwyd yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Meddygaeth UCL yn 2000 ac yna'n Ddarllenydd mewn Bioleg Gardiofasgwlaidd yn y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, Prifysgol Llundain.
Mae Ymchwil yr Athro Baxter yn canolbwyntio ar glefyd isgemia'r galon a'i driniaeth, gyda phwyslais penodol ar benderfynyddion moleciwlaidd anafiadau cyhyrol y galon yn ystod cnawdychiad myocardaidd aciwt (trawiad ar y galon). Mae wedi cyhoeddi'n eang ar rolau mecanweithiau arwyddo cemegol sy'n berthnasol i ddatblygu triniaethau i amddiffyn cyhyr y galon. Yn 2009, dyfarnwyd doethuriaeth uwch (D.Sc) iddo gan Brifysgol Nottingham am gorff o weithiau cyhoeddedig ar y pwnc hwn ac fe'i hetholwyd i Gymrodoriaethau Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Cymdeithas y Galon America a Chymdeithas Cardioleg Ewrop.
Mae'r Athro Baxter yn athro prifysgol profiadol a hefyd yn ymrwymo i amcanion eang addysg ryddfrydol ac wedi addysgu ystod eang o bynciau, gan gynnwys elfennau o ffisioleg, ffarmacoleg ac athroniaeth gwyddoniaeth, i fyfyrwyr gwyddorau naturiol, meddygaeth, gwyddor filfeddygol a fferylliaeth.