Digwyddiad 'Dragon's Den' Chwaraeon i gyd-fynd â Gem Derfynol UEFA
24 Mai 2017
Bydd syniadau gwych i chwyldroi byd pêl droed yn cael eu harddangos mewn Cystadleuaeth Arloesedd Chwaraeon arbennig yng Nghaerdydd.
Bydd cwmnïau o bedwar ban y byd yn cystadlu am gyfle i gymryd rhan mewn Cystadleuaeth SPIN Hype Foundation ym Mhrifysgol Caerdydd ar 2 Mehefin.
Ddiwrnod cyn Gêm Derfynol Champions League UEFA yn y Stadiwm Genedlaethol yng Nghaerdydd, bydd deg cystadleuydd lwcus yn cael cyflwyno eu busnes newydd i banel Dragon's Den fydd yn cynnwys enwau pwysig o fyd pêl droed rhyngwladol.
Bydd y beirniaid yn cynnwys:
- Bernd Wahler, cyn-Brif Swyddog Marchnata Adidas a Llywydd VfB Stuttgart (Pennaeth y Beirniaid)
- Yr Athro Laura McAllister, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
- Guy Laurent Epstein, Cyfarwyddwr Marchnata, UEFA
- Jamie Heywood, Amazon
- Ignacio Mestre, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad FC Barcelona
- Stefan Wagner, SAP
- Yr Athro James Skinner, Loughborough University.
Dywedodd Amir Raveh, Prif Swyddog Gweithredol HYPE: "Rydym wedi cael nifer fawr o fusnesau bach yn gwneud cais, ac arloeswyr gwych ar draws sectorau, gan gynnwys technoleg wisgadwy, dadansoddeg, ymgysylltu â chefnogwyr, a darlledu.
"Mae'r cwmnïau sy'n cystadlu yn addo sicrhau bod ein Cystadleuaeth SPIN yng Nghaerdydd yn ddechrau gwych i Gêm Derfynol UEFA Champions League ddydd Sadwrn 2 Mehefin. Mae'n gyffrous gweld y busnesau newydd fydd yn llywio dyfodol pêl droed."
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Hype i gynnal y digwyddiad sy'n agored i bobl â gwahoddiad yn unig yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion fodern Ysgol Busnes Caerdydd. Cynhelir hacathon i fyfyrwyr cyn y digwyddiad, fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu syniadau eu hunain ar gyfer y gêm gelfydd.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Mae arloesedd yn chwarae rhan enfawr ym myd chwaraeon. Mae technoleg pêl droed yn newid drwy'r amser, wrth i ddyfeisiadau newydd gael eu cyflwyno fel technoleg llinell gôl a chaeau artiffisial, neu esgidiau pêl droed a grëwyd gan argraffydd 3d. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr gyflwyno eu syniadau i banel nodedig o feirniaid rhyngwladol."
Bydd cwmnïau'n cyflwyno ar ddiwrnod Gêm Derfynol Menywod UEFA Champions League rhwng enillwyr llynedd Lyon, a Paris Saint-Germain yn Stadiwm Dinas Caerdydd – y gêm derfynol UEFA gyntaf fydd yn cynnwys timau o Ffrainc yn unig. Yng ngêm y dynion, bydd Juventus yn wynebu enillwyr llynedd, Real Madrid, ar 3 Mehefin, a bydd yr arwr lleol Gareth Bale yn dychwelyd i'w ddinas enedigol.