Lefelau uchaf erioed o dlodi mewn gwaith wedi'u datgelu
22 Mai 2017
Yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd, mae dros hanner (60%) y bobl sy'n byw mewn tlodi yn y DU yn byw mewn aelwyd lle mae rhywun yn gweithio. Dyma'r ganran uchaf erioed a gofnodwyd (dydd Llun, 22 Mai, 2017).
Mae'r adroddiad gan Dr Rod Hick a Dr Alba Lanau o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn taflu goleuni newydd ar y broblem gynyddol o dlodi mewn gwaith yn y DU. Ariannwyd yr adroddiad gan Sefydliad Nuffield.
Daeth i'r amlwg yn yr adroddiad bod y risg o dlodi i oedolion sy'n byw mewn aelwydydd sy'n gweithio wedi cynyddu dros chwarter (26.5%), o 12.4% i 15.7%, yn ystod y degawd rhwng 2004/5 a 2014/15.
Mae'r ymchwil yn dangos mai nifer y gweithwyr mewn aelwyd, yn hytrach na chyflog isel, yw'r prif ffactor sy'n pennu tlodi mewn gwaith.
“Bu llawer o drafod yn ddiweddar am sut gall cynyddu'r isafswm cyflog helpu i leihau tlodi,” yn ôl Dr Rod Hick o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a arweiniodd yr ymchwil.
“Fodd bynnag, mae ein hadroddiad yn dangos bod llai na hanner yr oedolion sy'n dioddef tlodi mewn gwaith yn byw gyda gweithiwr ar gyflog isel. Mae hefyd yn dangos bod y rhan fwyaf o weithwyr ar gyflogau isel yn byw mewn aelwydydd nad ydynt yn rhai tlawd…”
Ychwanegodd: “Mae angen mynd i'r afael â thlodi mewn ffordd newydd: mae'n ymwneud â gwella amgylchiadau'r aelwyd gyfan, nid y gweithiwr unigol yn unig, ac mae hyrwyddo cyflogaeth yn hollbwysig.”
Mae credydau treth, pwnc trafod amlwg dros y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn ffordd bwysig o gefnogi teuluoedd sy'n gweithio sydd ar incwm isel.
Edrychodd yr ymchwil ar effeithiolrwydd credydau treth o ran lleihau tlodi mewn gwaith dros y degawd diwethaf.
Dywedodd Dr Hick: “Mae ein hymchwil yn dangos bod credydau treth wedi lleihau tlodi mewn gwaith yn effeithiol – i'r teuluoedd sy'n eu derbyn. Fodd bynnag, mae llai na hanner y teuluoedd tlawd mewn gwaith yn cael credydau treth. Mae hyn o ganlyniad i sut maent wedi'u dylunio a'r nifer isel sy'n eu hawlio. Yn benodol, ychydig iawn o deuluoedd tlawd mewn gwaith, ac sydd heb blant, sy'n hawlio credydau treth.”
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y cynnydd mewn tlodi mewn gwaith i'w weld yn bennaf ymysg yr aelwydydd sy'n rhentu yn y sector preifat a thenantiaid tai cymdeithasol.
Ychwanegodd Dr Hick: “Mae ein hymchwil wedi dangos bod costau tai yn dod yn ffactor cynyddol bwysig wrth bennu cyfraddau tlodi ymhlith teuluoedd sy'n gweithio.
“Os na fydd polisïau'n cael eu cyflwyno sy'n gwneud rhagor i fynd i'r afael â chostau tai yn uniongyrchol, bydd yn llyncu unrhyw arian ychwanegol a enillir mewn meysydd eraill e.e. y bwriad i gynyddu'r isafswm cyflog.”
Mae'r adroddiad yn cynnig cyfres o argymhellion i geisio mynd i'r afael â'r broblem
Mae'r adroddiad yn argymell cefnogi teuluoedd gyda phlant i wneud rhagor o waith cyflogedig drwy wneud yn siŵr bod gofal plant ar gael ac yn fforddiadwy; gwrthdroi'r toriadau i gredydau treth i wneud yn siŵr bod y teuluoedd sy'n gweithio ac yn ennill incwm isel yn cael eu cefnogi; a mynd i'r afael â'r costau tai uchel y mae teuluoedd yn eu hwynebu, yn enwedig yn y sector rhentu preifat.