Gwobrau'n dathlu academyddion Caerdydd
19 Mai 2017
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dyfarnu pedair o'u medalau blynyddol i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r medalau, a gyflwynwyd mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd, yn cydnabod llwyddiannau pobl yng Nghymru ac yn dathlu ymchwilwyr rhagorol sydd â chysylltiad â'r wlad.
Cafodd yr Athro Anita Thapar, o'r Ysgol Meddygaeth, ei chydnabod am ei chyfraniad rhagorol at STEMM drwy ennill y fedal Frances Hoggan am ei gwaith ym maes seiciatreg plant a'r glasoed.
Mae Athro Thapar yn cael ei chydnabod fel un o Seiciatryddion Plant a'r Glasoed mwyaf blaenllaw'r byd, ac mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ffactorau genetig ac amgylcheddol sy'n achosi Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac iselder ymhlith pobl ifanc. Mae ei chanfyddiadau'n cynnwys nodi bod mamau'n ysmygu'n gysylltiedig â risg uwch o ADHD, a bod straen yn cael ei effeithio gan ffactorau genetig yn hytrach na rhai amgylcheddol.
Wrth sôn am y wobr, dywedodd yr Athro Thapar: “Mae gweithio gyda fy nghydweithwyr rhagorol wedi bod yn fuddiol dros ben i fy ngwaith gwyddonol dros y blynyddoedd. Mae llawer o'r rhain wedi bod yn wyddonwyr benywaidd ifanc – felly rwy'n gobeithio y bydd y wobr hon yn ysbrydoliaeth iddynt.”
Cafodd yr Athro Graham Hutchings, o'r Ysgol Cemeg, wobr Menelaus am ragoriaeth ym maes peirianneg a thechnoleg.
Yr Athro Hutchings yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes catalysis, ac mae wedi darganfod dulliau newydd o gynhyrchu'r polymer poblogaidd, PVC, gan ddefnyddio catalydd newydd sy'n cynnwys aur. Yr Athro Hutchings yw deiliad presennol rôl Athro Regius, a Chyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Hutchings: “Mae'n anrhydedd fawr cael Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru” dywedodd. “Mae fy ngwaith ym maes catalysis wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddylunio technolegau newydd mewn cydweithrediad â byd diwydiant. Yn ddiweddar, o ganlyniad i'n gwaith, roedd modd defnyddio aur fel catalydd newydd yn lle catalydd mercwri llygrol iawn wrth gynhyrchu finyl clorid, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn fuddiol i'r gymdeithas gyfan.”
Cafodd y fedal Owen, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ei ddyfarnu i'r Athro Chris Taylor, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, i gydnabod ei gyfraniad at ymchwil academaidd, sydd hefyd wedi llywio datblygiad polisïau addysg allweddol yng Nghymru.
Yr Athro Taylor yw Cyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru, ac mae wedi arwain prosiectau blaenllaw am amrywiaeth o faterion addysgol, gan gynnal ymchwil ar draws sectorau addysg, o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg uwch.
Dywedodd yr Athro Taylor “Braint yw cael y Fedal Hugh Owen gyntaf gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru...”
Mae'r medalau Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn wobr yn unigryw o'i chymharu â gwobrau academïau cenedlaethol eraill y DU, a chawsant eu dyfarnu i gydnabod gwaith rhagorol gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yng ngwahanol feysydd academaidd.
Cafodd Dr Rhiannon Evans, Uwch Ddarlithydd yng Nghanolfan Ymchwil DECIPHer Prifysgol Caerdydd, y Fedal Dillwyn ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol, addysg a busnes.
Mae ymchwil Dr Evans yn canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc, yn ogystal ag atal hunan-niwed a hunanladdiad.