Ydych chi weld gweld meddyg teulu oherwydd problemau gyda'ch dannedd a'ch deintgig?
19 Mai 2017
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal astudiaeth i ddod i wybod pam mae cleifion yn mynd i weld meddyg teulu pan fydd ganddynt broblem â'u dannedd neu ddeintgig.
Mae astudiaeth Ceisio Gofal, mewn partneriaeth â deintyddion o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn chwilio am oedolion yn y DU sydd wedi bod i weld eu meddyg gyda phroblem â'u dannedd neu ddeintgig dros y 12 mis diwethaf.
Mae'r astudiaeth yn dilyn ymchwil flaenorol gan Brifysgol Caerdydd a oedd yn dangos bod dros hanner y bobl sy'n mynd at eu meddyg pan mae ganddynt broblem â'u dannedd neu eu deintgig, yn annhebygol o gael y driniaeth fwyaf addas ar gyfer eu cyflwr.
7,500 o bobl yr wythnos
Dywedodd Dr Anwen Cope, arweinydd y gwaith ymchwil: “Mae ymchwil yn dangos bod cynifer â 7,500 o bobl yr wythnos yn ymweld â'u meddyg teulu yn hytrach na deintydd pan fydd ganddynt broblemau deintyddol.”
Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn honni mai'r cynnydd yn y ffioedd am ofal deintyddol y GIG yw'r rheswm dros hyn, gan fod llawer o gleifion yn cael eu gorfodi i fynd at feddyg. O ganlyniad i hynny, mae'r Gymdeithas yn galw am fwy o arian ar gyfer gwasanaeth deintyddiaeth y GIG.
Ond, fel y mae Dr Cope yn ei esbonio: “Mewn gwirionedd, nid ydym yn gwybod llawer am y rhesymau pam mae cleifion yn dewis mynd at y meddyg yn hytrach na'u deintydd...”
“Dyma rai o'r ffactorau yr ydym yn gobeithio eu hystyried yn yr astudiaeth Ceisio Gofal.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn astudiaeth Ceisio Gofal, ewch i'r wefan. Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cael taleb siopa gwerth £10.