£88,000 ar gyfer project ymchwil Caerdydd o dan arweiniad pobl anabl
17 Mai 2017
Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn £88,077 fel rhan o raglen ymchwil gwerth £5 miliwn yn trafod byw’n annibynnol gan bobl anabl.
Bydd project Cyfreithiol Anabl? yn ymchwilio rhwystrau ac atebion cyflogaeth ym maes y gyfraith ar gyfer pobl anabl. Clustnodwyd y cyllid gan raglen DRILL (ymchwil anabledd er byw’n annibynnol a dysgu), cynllun pum mlynedd a lansiwyd yn 2015 o dan arweiniad pobl anabl gyda chyllid gan Gronfa’r Loteri Fawr.
Rheolir y project gan Dr Debbie Foster, Ysgol Busnes Caerdydd, ond bydd y gwaith o dan arweiniad pobl anabl, yn cynnwys academyddion a llunwyr polisïau.
Dywedodd Rhian Davies, Anabledd Cymru, sy’n cefnogi projectau DRILL yng Nghymru: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r grant DRILL yma a chefnogi project o dan reolaeth pobl anabl am faterion anabledd. Bydd yn helpu i daclo bylchau mewn tystiolaeth er creu newidiadau gwirioneddol ar gyfer pobl anabl.”
Ychwanegodd Dr Debbie Foster, Ysgol Busnes Caerdydd “Mae’n gyfle gwych i gynnal ymchwil gyda phobl anabl ym maes y gyfraith. Yn rhy aml tueddir i feddwl bod pobl anabl ond yn gweithio mewn swyddi heb lawer o sgiliau ac nid yn gymwys i weithio yn y proffesiynau uchaf.
Bydd yr ymchwil yma’n ceisio heriau stereoteipiau o’r fath wrth danlinellu cyfraniad pobl anabl ym maes y gyfraith ac wrth nodi’r rhwystrau maent yn dal i wynebu, ynghyd â darpar atebion."
Yn ogystal mae DRILL wedi gwahodd ceisiadau newydd am gyllid ymchwil a phrojectau. Manylion pellach yn www.drilluk.org.uk.
Lansiwyd rhaglen DRILL yn 2015 gyda chyllid gan Gronfa’r Loteri Fawr ac o dan reolaeth Disability Rights UK, Disability Action Northern Ireland, Inclusion Scotland ac Anabledd Cymru. Bydd DRILL yn edrych i ariannu hyd at 40 peilot ymchwil a phrojectau dros gyfnod o bum mlynedd. Mae eisoes wedi clustnodi cyllid gwerth oddeutu £1,000,000 yn y rownd hon o geisiadau.