Biowyddoniaeth Nemesis yn codi £700,000
15 Mai 2017
Mae cwmni yng nghanolfan Medicentre Prifysgol Caerdydd wedi cael £700,000 o arian sbarduno i ddatblygu therapïau gwrthficrobaidd.
Codwyd yr arian gan Biowyddoniaeth Nemesis drwy Gyllid Cymru, The Rainbow Seed Fund a Dr Mar McCamish.
Mae'r cwmni'n datblygu cynnyrch sydd wedi'i ddylunio i atgyfodi therapïau gwrthficrobaidd (sy’n aneffeithiol oherwydd ymwrthedd i gyffuriau).
Bydd y cwmni'n defnyddio'r elw i ddilysu ei gyfres o dechnolegau Bacterial Cybergenetics©.
Y Medicentre yw cartref Nemesis. Mae’r Medicentre yn ganolfan sy’n meithrin busnesau biotechnoleg a thechnoleg feddygol newydd, ac mae Prifysgol Caerdydd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am gynnal y ganolfan ar y cyd.
Dywedodd Phil Barnes, arweinydd y buddsoddiad o Gyllid Cymru: "Mae Nemesis yn gwmni portffolio cyffrous sydd wedi elwa o arian sbarduno technoleg Cyllid Cymru yn ogystal â’n buddsoddiad o'n prif gronfeydd ar gyfer mentrau technoleg. Mae cael buddsoddiad ar y cyd gan fuddsoddwyr o'r radd flaenaf fel The Rainbow Seed Fund yn dod â phrofiad da o'r sector, a chyfalaf datblygu ychwanegol i'r cwmni."
Ychwanegodd cyfarwyddwr buddsoddi Rainbow, Oliver Sexton: "Mae gan Nemesis dechnoleg flaenllaw. Mae ei llwyfan wedi dangos ei bod yn gallu gwneud gwrthfiotogau yn effeithiol eto mewn arunigion clinigol..."
Mae Nemesis o’r farn mai trwy ddiffodd mecanweithiau ymwrthedd y gellir mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Nid yw gweithredwyr Nemesis yn lladd bacteria yn uniongyrchol. Mae nhw atgyfodi'r rhagdueddiad i wrthfiotigau a thrwy hynny’n dileu bygythiad yr heintiau difrifol ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau’n effeithlon yn y tymor hir.
Cafodd Nemesis Bioscience, a leolir yng Nghaergrawnt a Chaerdydd, ei sefydlu ym mis Mawrth 2014 gan Dr Frank Massam, yr Athro Conrad Lichtenstein a Dr Gi Mikawa.