Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru a Prifysgol Caerdydd yn ynddangos gwyddoniaeth yn yr Urdd
15 Mai 2017
Mae Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymruyn cefnogi gwyddoniaeth ar draws Cymru ac yn cydlynu arddangosfa wyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rhwng 29ain Mai a 3ydd Mehefin.
Bydd ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth ac Abertawe yn rhannu eu gwyddoniaeth â’r cyhoedd o bob oed, ym Mhabell Wyddoniaeth GwyddonLe ar faes yr Eisteddfod.
Tynnir sylw at yr ymennydd dynol cymhleth iawn, gwella arennau sydd wedi cael niwed, modelu cyfrifiadurol ar gyfer darganfod cyffuriau ac arddangosfeydd parasitiaid rhyngweithiol.
Bydd y Dôm Ymennydd Anferth a oedd mor boblogaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2016 yn y Fenni ar ddangos eto... ble arall ar y ddaear ydych chi’n gallu bownsio y tu mewn i ymennydd anferth?!
Dywedodd yr Athro Arwyn Jones o Brifysgol Caerdydd, “Dyma gyfle gwych i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r gefnogaeth y mae Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru’n ei rhoi i Wyddoniaeth yng Nghymru wrth geisio gwella triniaethau ar gyfer cyflyrau fel canser, dementia, heintiau microbaidd a chlefyd yr arennau”.
Dywedodd Dr Andrea Brancale, Cyfarwyddwr Gwyddonol y Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru, “Rydym wrth ein bodd i fynychu Eisteddfod yr Urdd eleni i arddangos trawstoriad o rywfaint o’r ymchwil ardderchog sy’n cael ei gynnal ym maes darganfod cyffuriau ar draws Cymru”.