Astudiaethau cyfieithu yn sicrhau swyddi
12 Mai 2017
Dwy fyfyrwraig MA Ysgol y Gymraeg yn dathlu swyddi newydd ym myd cyfieithu proffesiynol.
Mae Ellen Carter a Hanna Medi Merrigan, sy’n astudio ar gyfer MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, wedi sicrhau swyddi gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chwmni Cyfieithu Clir.
Graddiodd Ellen gyda BA yn Y Gymraeg o’r Ysgol yn 2016, wedi iddi ymuno â’r Ysgol yn 2013 fel myfyrwraig ail-iaith. Dywedodd am ei phrofiad academaidd a’r swydd newydd: “Rydyn ni wedi cael cyfleoedd anhygoel yn ystod yr MA eleni i astudio a phrofi byd cyfieithu proffesiynol. Yn ogystal â chael cynnig swyddi rhan amser yn Uned Gyfieithu'r Brifysgol, rydym wedi cael cyfle i brofi cyfieithu ar y pryd, cyfieithu deddfwriaethol a chyfieithu llenyddol, yn ogystal â chael sesiynau gydag arbenigwyr megis Alun Ceri Jones, cyfieithydd llyfrau graffig Asterix i’r Gymraeg. Fe es i ar gyfnod o brofiad gwaith i archifau Sain Ffagan, ac mae'n braf edrych ymlaen at weithio yno yn y dyfodol nawr fy mod i’n ymuno ag Amgueddfa Cymru fel Cyfieithydd Cynorthwyol. Yn wir, dyma fy swydd ddelfrydol.
“Heb os, mae’r profiadau yma, a chefnogaeth yr Ysgol, wedi rhoi i mi’r hyder a’r sgiliau i ymuno â’r byd cyfieithu yng Nghymru.”
Ychwanegodd Dr Siwan Rosser, Cydlynydd y rhaglen MA yn Ysgol y Gymraeg: “Hoffwn longyfarch Ellen a Hanna ar eu swyddi newydd. Maent wedi gweithio’n ddyfal yn ystod eu hastudiaethau ac yn llwyr haeddu’r cyfleoedd newydd hyn. Mae rhaid hefyd gydnabod llwyddiant arbennig Ellen a ymunodd â ni ar lwybr Ail Iaith y BA yn y Gymraeg. Mae ei hymrwymiad i’w datblygiad academaidd a phroffesiynol i’w ganmol yn fawr.”
Yn debyg i Ellen, mae Hanna yn edrych ymlaen at gael cychwyn fel cyfieithydd llawn amser fis Medi gyda chwmni Cyfieithu Clir yng Nghaerdydd. Mae Hanna yn cytuno bod y cyfleoedd profiad gwaith yn Ysgol y Gymraeg, yn ogystal â’r gefnogaeth heb ei hail gan yr Ysgol, wedi cyfrannu at ei llwyddiant yn sicrhau ei swydd newydd: “Trwy astudio cyfieithu eleni, rydym wedi cael llu o brofiadau ymarferol a siaradwyr gwadd yn dod atom ac mae hyn wedi ychwanegu at fy mhroffil personol a'm mhrofiad.
“Mae perthynas dda rhwng Ysgol y Gymraeg ac Uned Gyfieithu'r Brifysgol, a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael swydd ran-amser yno tra'n astudio a dwi’n ddiolchgar iawn i'r Athro Sioned Davies am drefnu'r cyfle. Mae’r profiad hwnnw wedi rhoi cyfle i mi roi'r theorïau ymarferol dwi'n eu dysgu ar waith. Dwi wedi cael cyfleoedd gwerthfawr a oedd o gymorth i mi wrth fynd am y swydd gyda Cyfieithu Clir ac mae'r Ysgol hefyd wedi bod yn gefnogol iawn yn fy helpu gyda fy CV a'r ffurflenni cais.”
Meddai Dr Rosser: “Mae gan yr Ysgol hanes hir fel canolfan i addysg ac ymchwil o’r radd flaenaf ac mae gennym enw da ar gyfer astudiaethau cyfieithu sydd yn faes cynyddol bwysig yn y Gymru gyfoes. Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi a hybu sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr, gan ddeall ei bod hi’n hollbwysig cydbwyso addysg, arbenigedd a phrofiad ymarferol er mwyn cystadlu yn y byd gwaith. Mae profiad gwaith felly yn rhan annatod o’n darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig.”
Mae nifer o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol wedi mynd ymlaen i weithio ym myd cyfieithu proffesiynol, yn gweithio gyda chwmnïoedd megis Trosol, Prysg ac mewn sefydliadau cenedlaethol megis Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â hyn, mae’r Ysgol ar flaen y gad o ran ymchwil i theori a methodoleg cyfieithu, dan arweinyddiaeth Dr Jeremy Evas.