Canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng diet a chanser
12 Mai 2017
Mae Lyndon Wood, un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus y DU, yn helpu i ariannu ymchwil newydd ar atal canser y coluddyn.
Bydd yr ymchwil arloesol sy'n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng diet a chanser yn cael ei chynnal yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd – un o ganolfannau ymchwil blaenllaw Prifysgol Caerdydd. Dyma'r unig Sefydliad yn Ewrop, a agorwyd yn 2011, sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ymchwil bôn-gelloedd canser. Ei brif nod yw datblygu therapïau newydd a fydd yn trawsnewid y cyfraddau goroesi i gleifion sy'n dioddef o bob math o ganser.
Mae Mr Wood, sylfaenydd constructaquote.com, brocer yswiriant ar-lein a Moorhouse Group, wedi cyfrannu swm sylweddol i'r Sefydliad er mwyn ariannu swydd ddoethuriaeth am flwyddyn yn labordy Dr Lee Parry. Stephanie May sy'n gwneud y swydd, a bydd yn edrych ar sut mae cydrannau dietegol yn newid ymddygiad bôn-gelloedd arferol a bôn-gelloedd sydd â chanser. Yn benodol, bydd gwaith Ms May yn canolbwyntio ar fafon duon ac asidau brasterog yn y gadwyn fer, a sut y gallant o bosibl helpu i atal datblygiad a thyfiant canser yn y coluddyn.
Daeth Mr Wood i weld y Sefydliad am y tro cyntaf ym mis Hydref y llynedd, ynghyd â thîm codi arian o Enterprise Rent a Car; cwmni sydd wedi cefnogi'r sefydliad ers amser maith. Eglurodd: “Mae fy ngwraig, Shirley Ann, wedi dioddef yn ddiweddar o ganser y fron Cam 3. Cawsom y cyfle i ymweld â'r Sefydliad fel rhan o daith labordy a drefnwyd gan y tîm Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd gweld effaith sylweddol yr ymchwil canser sy'n cael ei chynnal dafliad carreg o'n cartref wedi gwneud cryn argraff arnom ni.”
![Lyndon Wood and wife with Univeristy researcher](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=575&ar=16:9)
Wedi ei ysbrydoli gan hyn, roedd Mr Wood yn awyddus i ariannu swydd ymchwil a fyddai'n canolbwyntio'n benodol ar atal y clefyd – sydd o ddiddordeb mawr i Mr Wood a'i wraig.
“Yn fy marn i, atal clefydau yw'r dyfodol ym maes iechyd, ac roedd y gwaith atal sy'n digwydd yn labordy Dr Parry yn ticio pob blwch i mi,” meddai Mr Wood.
“Ar hyn o bryd, mae llawer mwy o arian ar gael ar gyfer gwneud gwaith ymchwil i drin clefydau yn hytrach na'u hatal. Er lles ein hiechyd a dyfodol y GIG, mae'n rhaid newid y meddylfryd hwn. Rwy'n edrych ymlaen at gael y cyfle i helpu datblygu'r maes ymchwil hanfodol hwn.”
Roedd pa mor agos oedd y Sefydliad iddo hefyd yn ffactor mawr yn ei benderfyniad.
Aeth ymlaen: “Mae'n well gennyf gefnogi achosion lleol lle bo hynny'n bosibl, ac rwy'n awyddus i gefnogi'r ymchwil arbennig sy'n cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ohoni. Gyda lwc, y gallaf ysbrydoli eraill i gymryd rhan wrth gefnogi gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd i atal clefydau. Roedd y ffaith bod pob ceiniog o'r rhoddion i'r Sefydliad yn mynd at y gwaith ymchwil yn uniongyrchol yn fantais enfawr arall i ni.”
Esboniodd Ms May effaith bosibl y rhodd: “Heb gymorth Mr a Mrs Wood, yn syml, ni fyddwn wedi gallu parhau â'm gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd...”
“Canser y coluddyn yw'r ail ganser mwyaf cyffredin sy'n achosi marwolaethau yn y DU. Mae ymchwil blaenorol wedi dangos y gallai hanner y marwolaethau hynny fod wedi eu hatal drwy newid ffordd o fyw pobl.”
“Mae atal canser y coluddyn rhag tyfu a lledaenu drwy newid diet o ddiddordeb mawr i mi, yn enwedig o ystyried mafon du. Mewn modelau o anifeiliaid a chleifion sy'n dioddef o ganser, mae mafon du wedi dangos eu bod yn gallu atal tyfiant tiwmor. Ar ôl gweld canlyniadau diddorol ac addawol fy mhrosiect PhD, rwy'n awyddus i edrych ar hyn ymhellach drwy wneud profion ar gyfansawdd Meinweoedd Dynol.
“Bydd y rhodd hael hwn gan Mr a Mrs Wood, yn fy ngalluogi i ddatblygu'r maes ymchwil pwysig hwn ymhellach. Mae'n bosibl y byddwn yn darganfod ffyrdd newydd o atal a thrin y clefyd marwol hwn.”
Dywedodd Matt Smalley, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Mr a Mrs Wood am eu rhodd hael, ac mae'n bleser gennym ddechrau ar berthynas cyffrous iawn gyda nhw...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/134465/smalley-matt.png?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Fel elusen rydym yn dibynnu ar roddion tebyg er mwyn parhau â'n gwaith ymchwil i driniaethau canser posibl. Mae'r cyllid newydd hwn yn ein galluogi i barhau â'n gwaith pwysig i atal clefydau, a datblygu ar hyn. Yn y pen draw, bydd yn ein helpu i drawsnewid y ffordd rydym yn mynd i'r afael â chlefydau.”
Yn ogystal â'i rodd wreiddiol, mae Mr Wood wedi dewis Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd fel elusen y flwyddyn Moorhouse Group. Bydd Mr Wood a'i weithwyr yn gwneud sawl gweithgaredd yn y gymuned i godi arian (gan gynnwys cofrestru tîm yng Ngemau Gauntlet sydd ar y gweill), yn ogystal â lansio ymgyrch torfol i godi arian er mwyn helpu i gefnogi gwaith parhaus y Sefydliad.