Cyfle i ddylanwadu ar eich cymuned
12 Mai 2017
Gwahoddir preswylwyr Grangetown i wneud eu cymuned yn lle gwell fyth i fyw ynddo drwy gymryd rhan mewn prosiectau Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd.
Dyma ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn nhrydydd ddigwyddiad blynyddol Caru Grangetown, sydd wedi'i drefnu gan y Porth Cymunedol a'i bartneriaid ddydd Sadwrn 13 Mai.
Bydd adborth gan y gymuned yn llywio gweithgareddau'r Porth Cymunedol dros y 12 mis nesaf.
Caru Grangetown
Mae Caru Grangetown yn dechrau ym Mhafiliwn Grange, Gerddi Grange, am 14.00. Bydd y gweithgareddau i deuluoedd yn cynnwys crefftau, hwyl a sbri chwaraeon Dinas Caerdydd, ymweliad gan y gwasanaeth tân, a chyfle i ddylunio Coron Eisteddfod.
Bydd hefyd arddangosfa o brosiectau a gweithgareddau'r Porth Cymunedol, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â'r gymuned.
Arddangosfa o dalentau lleol
Rhwng 16.00 a 19.00 bydd Pafiliwn Grange yn cynnal arddangosfa o dalentau lleol, gan gynnwys y cerddor Leighton Jones, y bardd Topher Mills, y rapiwr/artist grime Sonny Double 1, a'r dawnsiwr stryd Tiny Shubz.
Porth Cymunedol yw un o brif brosiectau ymgysylltu'r Brifysgol, ac mae'n cefnogi datblygiad ymchwil, addysgu a chyfleoedd gwirfoddoli yn Grangetown.
Mae bellach wedi cefnogi mwy na 40 o weithgareddau a phrosiectau yn y gymuned, gan gynnwys caffi athroniaeth, wythnos diogelwch, diwrnod iechyd meddwl a lles, ymgyrch siopa'n lleol, fforwm busnes, sesiynau codi sbwriel, a phanel cynghori ysgolion.
Eleni llwyddodd tîm y prosiect i gael grant gwerth £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr i ddatblygu syniadau i ailwampio ac estyn yr hen bafiliwn bowlio yng Ngerddi Grange.
Mae'r Porth Cymunedol wedi bod yn cydweithio â'r grwpiau preswylwyr Prosiect Pafiliwn Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown i adnewyddu'r hen bafiliwn segur a'i droi'n lleoliad ffyniannus ar gyfer y gymuned.