Yr Ysgol Meddygaeth yn Bencampwyr Addysg Gymraeg
17 Mai 2017
Mae dau aelod staff o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Pencampwyr Addysg Gymraeg yn Seremoni Wobrwyo Cyfoethogi Bywydau Myfyrwyr 2017.
Mae'r Gwobrau Cyfoethogi Bywydau Myfyrwyr yn ddigwyddiad blynyddol a gynhaliwyd gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i gydnabod staff a myfyrwyr sy'n cyfrannu i'r profiad myfyriwr yn y sefydliad. Cafodd Sara Whittam a Dr Awen Iorwerth eu dewis gan y myfyrwyr i gydnabod eu gwaith ym maes addysg cyfrwng Cymraeg.
Caiff Sara, Rheolwr Datblygu Darpariaeth yr Iaith Gymraeg ac Awen, Darlithydd cyfrwng Cymraeg, ill dwy eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Torri tir newydd
Mae'r Ysgol Meddygaeth wedi annog nifer o ddatblygiadau calonogol yn ei darpariaeth Cymraeg yn ddiweddar. Ym mis Ionawr, cyflwynodd Dr Awen Iorwerth y ddarlith iaith Gymraeg gyntaf am iechyd esgyrn ym Mhrifysgol Caerdydd Roedd yn llwyddiant mawr gyda dros 200 o fyfyrwyr yn bresennol.
Enillodd saith o fyfyrwyr yr Ysgol Meddygaeth Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni yn ogystal. Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1500 ar gyfer myfyrwyr sy'n bwriadu astudio o leiaf 33% o'u cwrs israddedig yn y Gymraeg.
Ymddangosodd israddedigion cyfrwng Cymraeg yr Ysgol ar gyfres ddogfen S4C, 'Doctoriaid Yfory' hefyd. Dangosodd y gyfres boblogaidd cymaint mae cleifion sy'n siarad Cymraeg yn gwerthfawrogi'r cyfle i drafod eu hafiechydon yn eu mamiaith.
Defnyddio'ch Cymraeg
Ond mae yna lawer mwy o waith ar y gweill. Mae gan Sara ac Awen gynlluniau pellach i ddatblygu darpariaeth Gymraeg yr Ysgol fel yr esbonia Awen:
"Dwi'n hynod falch o'r wobr yma - yn enwedig am mai enwebiad gan y myfyrwyr ydi hi. Dydy derbyn y wobr yma ddim yn golygu bod ein gwaith ar ben. Megis dechrau rydym ni! Er bod yna sawl cyfle wedi ei weithredu, mae'n hynod bwysig bod y cwricwlwm yn cael ei sefydlu a'i normaleiddio o fewn Ysgol sydd yn gweld y pwysigrwydd o'i gynnig i fyfyrwyr a chleifion Cymru."
Ychwanegodd Sara:
"Mae’n fraint derbyn y wobr hon ar ran pawb sy'n cyfrannu at ddatblygiad addysg feddygol yn Gymraeg. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn ysu cael mwy o ddarpariaeth dros y blynyddoedd er mwyn datblygu eu Cymraeg i'w defnyddio gyda chleifion ar leoliad ac yn eu gwaith. Gobeithio bydd llawer ohonynt a'u cleifion yn elwa o’r datblygiadau cyffrous sydd ar y gweill."
Cafodd Elliw Iwan, Swyddog Cangen Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr Addysg Gymraeg hefyd.
Cewch ragor o wybodaeth am gyfleoedd iaith Gymraeg yn yr Ysgol Meddygaeth ar ei gwefan A gallwch ddarllen mwy am weithgareddau staff Coleg Cymraeg Prifysgol Caerdydd ar wefan y Gangen.