Plant ysgol yn dod yn wyddonwyr fforensig mewn gŵyl gemeg
11 Mai 2017
Mae grŵp o fyfyrwyr ysgol uwchradd o Gaerdydd a'r cyffiniau wedi bod yn mynd i'r afael â phroblemau gwyddonol go iawn mewn gŵyl gemeg flynyddol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd.
Camodd y myfyrwyr i mewn i esgidiau gwyddonwyr fforensig wrth iddynt ddefnyddio eu sgiliau cemeg ddadansoddol i ddod o hyd i'r prif berson dan amheuaeth mewn trosedd ffug. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn 'Her Prifysgol' lle bu'n rhaid iddynt ddatblygu 'dangosydd enfys' i brofi asidrwydd ac alcalinedd amrywiaeth o doddiannau.
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar ddiwedd y dydd, lle cafodd myfyrwyr wobrau a thystysgrifau unigol, ynghyd â gwobrau ar gyfer ysgolion y timau buddugol.
Cymerodd tua 50 o fyfyrwyr o 12 o ysgolion ledled De Cymru ran yn yr Ŵyl.
Mae'r Ŵyl Gemeg, sy'n fwy na 15 mlynedd oed bellach, yn fenter gan Sefydliad Salters – sefydliad dielw â'r nod o helpu i hyrwyddo cemeg a gwyddorau cysylltiedig ymhlith y genhedlaeth iau.
Mae'r ŵyl ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o blith 51 o Wyliau a gynhelir mewn Prifysgolion a Cholegau drwy gydol y DU a Gweriniaeth Iwerddon rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2017. Cynhelir yr ŵyl mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Mae'r ŵyl yn un o blith nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu a drefnir gan Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, er mwyn hyrwyddo maes cemeg i'r genhedlaeth iau, a'u hannog i ystyried gyrfa sy'n gysylltiedig â phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
Dr Simon Pope, o'r Ysgol Cemeg, sy'n trefnu'r Ŵyl ar ran Prifysgol Caerdydd. Dywedodd: “Mae'n wych ein bod wedi cynnal Gŵyl Gemeg Sefydliad Salters yma ym Mhrifysgol Caerdydd unwaith eto...”