Mwynhewch yr awyr iach yr haf hwn wrth chwiliwch am wenyn
10 Mai 2017
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gofyn i'r cyhoedd eu helpu i ddarganfod a yw mannau gwyrdd y ddinas yn dechrau dod yn lloches ar gyfer gwenyn.
Yn dilyn prosiect arobryn Gwenyn Fferyllol y Brifysgol, sy'n defnyddio gwenyn i nodi cyffuriau sy'n deillio o blanhigion ac y gellir eu defnyddio i drin pathogenau mewn ysbytai sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau, bydd pobl Caerdydd yn cymryd rhan mewn arolwg ar-lein i gofnodi planhigion o gwmpas y ddinas sy'n denu gwenyn fel rhan o brosiect 'Spot a Bee', sydd newydd gael ei lansio.
Meddai'r Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: “Mae angen cymorth pobl Caerdydd arnom i ddarganfod a yw parciau a gerddi cefn ein dinas yn cynnig cartref delfrydol i'n cyfeillion sy'n hedfan...”
Mae gwenyn yn hanfodol i barhad y blaned, ond mae eu niferoedd yn gostwng yn sylweddol. Yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf mae llawer o'u cynefin wedi cael ei golli, gan gynnwys 90% o'r caeau blodau gwyllt yn y DU.
Gallai ffermio dwys (un cnwd yn unig), plaladdwyr, newid hinsawdd, a phlâu fel Varroa fod wedi cyfrannu at ddirywiad sylweddol yn nifer y gwenyn yn ein tirweddau gwledig. Yn wahanol i'r cefn gwlad, mae ein trefi, parciau a gerddi cefn maestrefol yn cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion a blodau o ledled y byd, a gallent fod yn lloches i wenyn.
Ychwanegodd yr Athro Price: “Rydym wedi ymrwymo i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n addas i wenyn. Yn ogystal â'n prosiect Spot a Bee, rydym wedi bod yn annog pobl i blannu amrywiaeth o flodau gwyllt, boed hynny yn eu gerddi cefn neu mewn mannau mwy anarferol fel toeau adeiladau concrit mewn trefi, gan sicrhau nad yw niferoedd gwenyn yn edwino ymhellach ac fel ein bod yn creu amgylchedd trefol dymunol i fyw ynddo. Hefyd, drwy blannu blodau gwyllt penodol y mae eu neithdar i’w gael mewn mêl gwrthfacteria, rydym yn gobeithio dod o hyd i atebion i un o heriau mawr y byd – ymwrthedd i gyffuriau.”