Ysgoloriaeth PhD newydd ar gyfer prosiect ar amrywio a newidiadau ieithyddol
9 Mai 2017
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn falch o allu cyhoeddi doethuriaeth newydd ar gyfer prosiect ar amrywio a newidiadau ieithyddol yn y Gymru gyfoes.
Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei gyfarwyddo gan Dr Iwan Wyn Rees a Dr Jonathan Morris. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd israddedig 2:1 neu ddosbarth cyntaf, a dylai fod wedi cwblhau cwrs ôl-radd mewn pwnc addas cyn cychwyn ar y prosiect.
Ariennir y ddoethuriaeth gan y Coleg Cymraeg a’r Ysgol. Bydd hi’n cychwyn ar 25 Medi 2017.
Pennaf nod y prosiect yw dadansoddi sut y mae ffactorau ieithyddol a chymdeithasol yn effeithio ar amrywio a newidiadau ieithyddol yn y Gymraeg. Drwy gasglu data o un neu ddwy gymuned benodol, bydd yr ymgeisydd yn defnyddio dulliau sosioieithyddol meintiol er mwyn dangos i ba raddau mae gwahanol ffactorau cymdeithasol yn effeithio ar y defnydd o nodweddion tafodieithol penodol.
Dywed Dr Jonathan Morris: “Dyma brosiect cyffrous a sylweddol. Mae’n gyfle gwych i fyfyriwr gyfrannu at ymchwil newydd a fydd yn ystyried effaith datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes ar y Gymraeg mewn cymunedau penodol.”
Ychwanegodd Dr Iwan Wyn Rees: “Er bod cryn dipyn o wybodaeth ar gael eisoes ynghylch amrywiadau llafar yn y Gymraeg, ychydig iawn o astudiaethau blaenorol sydd mewn gwirionedd yn ystyried effaith newidiadau diweddar yn nemograffeg a statws y Gymraeg yng Nghymru ar ddatblygiad y tafodieithoedd Cymraeg.”
Os ydych yn fyfyriwr sydd â diddordeb mewn tafodieithoedd a sosioieithyddiaeth, hoffai’r Ysgol glywed oddi wrthych. Am ragor o wybodaeth ac er mwyn derbyn ffurflen gais cysylltwch â Cadi Thomas, +44(0)29 2087 4843, thomasCR9@caerdydd.ac.uk.
Meini prawf cymhwyster
Bydd ymgeiswyr yn meddu ar radd israddedig 2:1 neu ddosbarth cyntaf, ac wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs ôl-radd mewn pwnc addas cyn cychwyn ar y prosiect hwn. Telir yr holl ffioedd dysgu ar ran yr ymgeisydd llwyddiannus (gwerth £4,195 y flwyddyn). Cynigir hefyd fwrsariaeth o £14,553 y flwyddyn.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5/6/17 (5yh)
Dyddiad cyfweld (yng Nghaerdydd neu dros Skype): 9/6/17