Y Rhyfel Byd Cyntaf yn nhiroedd y Pharoaid
9 Mai 2017
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi casglu dros 2000 o luniau o'r Aifft a Phalestina o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Nid yw'r lluniau wedi'u gweld o'r blaen.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae'r Athro Paul Nicholson a Dr Steve Mills o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn ceisio coffáu'r delweddau hyn o ryfel a chofnodi henebion o'r ardaloedd hyn. Dyma gofnod o'r rhyfel sy'n aml wedi'i esgeuluso.
Bu aelodau o'r cyhoedd yn rhannu lluniau, cardiau post ac atgofion o'r Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r ymchwilwyr wrth iddynt deithio o amgylch Cymru a Lloegr.
Dywedodd yr Athro Nicholson: “Mae'r lluniau wedi'u casglu o ganlyniad i haelioni'r cyhoedd mewn cyfres o sioeau teithiol yng Nghymru a Lloegr ac felly maent yn cynrychioli adnodd sydd heb ei gyhoeddi na'i weld o'r blaen...”
Mae'r lluniau, sy'n cynnwys ffotograffau a dynnwyd gan filwyr a menywod, wedi'u digideiddio a'u llwytho ar wefan benodol y prosiect. Mae cyfle gan y cyhoedd i weld yr hyn a welodd eu hynafiaid, ynghyd â golwg newydd ar safleoedd archeolegol, cyfarpar milwrol a dinasoedd fel yr oeddynt yn ystod y rhyfel.
Wrth i'r prosiect dynnu tuag at ei therfyn, cynhelir darlith gyhoeddus a chynhadledd yn rhad ac am ddim i ddarganfod mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn benodol ei effaith ar y Dwyrain Canol. Cynhelir Views from an Antique Land ar 19 Mai (darlith) ac 20 Mai (cynhadledd) 2017. Mae'r tocynnau yn rhad ac am ddim a bydd hyn yn cynnwys cinio ar y dydd Sadwrn. I gadw eich lle ewch yma.
Bydd modd gweld y lluniau yma.