Ewch i’r prif gynnwys

Swydd o ganlyniad i interniaeth yn y Brifysgol

8 Mai 2017

Project Search Intern working in shop

Intern o Brifysgol Caerdydd yw'r cyntaf yng Nghymru i ddod o hyd i waith drwy raglen rhyngwladol o bwys. Mae'r rhaglen yn cynnig swyddi a chyfleoedd dysgu i bobl ifanc sydd ag anableddau.

Mae Andrew yn 23 ac yn dod o Gaerdydd, ac roedd yn un o'r 12 myfyriwr o Goleg Caerdydd a'r Fro (CAVC) sydd â chyflyrau fel cyflwr sbectrwm awtistig ac anableddau dysgu a gafodd gyfle i wneud interniaeth yn y Brifysgol.

Project SEARCH Interns

Fel rhan o Brosiect SEARCH, fe gwblhaodd dri interniaeth dros gyfnod o 10 wythnos yr un mewn siopau coffi yn y Brifysgol. Menter a ddechreuodd yn UDA ugain mlynedd yn ôl yw SEARCH.

Bellach mae Andrew wedi dod o hyd i swydd amser llawn yn Simply Fresh, yr archfarchnad ar Gampws Coleg Caerdydd a'r Fro yng nghanol y ddinas ar Heol Dumballs, Caerdydd.

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Mae CF10, cangen masnachol a manwerthu'r Coleg yn cyflogi myfyrwyr yn aml gyda llawer ohonynt yn dod o Adran Sgiliau Byw'n Annibynnol y Coleg. Dyma'r Adran ar gyfer pobl sydd ag anghenion dysgu a chefnogaeth ychwanegol.

Dywedodd Andrew:“Roeddwn i'n hoffi gweithio yn y Brifysgol – roeddwn i'n gweithio yn y siopau coffi a mwynheais weithio gyda'r cyhoedd. Roedd o gymorth wrth sicrhau'r swydd hon yn Simply Fresh, er ei bod yn wahanol.

“Rwy'n hapus mod i wedi cael y swydd hon. Fe wnes i gyfnod o brofiad gwaith yma ar ôl gorffen y cwrs Sgiliau Gweithio Lefel 3, a mwynheais hynny. Mae'n hwyl gweithio yma.”

Project Search intern with tutor

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Mae'n newyddion gwych mai Andrew yw'r intern cyntaf o Brosiect SEARCH, Prifysgol Caerdydd i ddod o hyd i waith. Llongyfarchiadau Andrew.

“Bu'n gweithio mewn sawl siop goffi yma yn y Brifysgol, felly mae'n wych ei fod wedi cael cynnig swydd lle gall wneud defnydd da o'r profiadau gwerthfawr hynny...”

“Rwy'n gobeithio y bydd eraill yn dilyn Andrew wrth inni barhau i fod yn rhan o'r prosiect.”

Yr Athro Karen Holford Professor

Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith un o dair prifysgol yn unig yn y DU sy'n cymryd rhan yn Prosiect SEARCH, gyda chefnogaeth gan Goleg Caerdydd a'r Fro ac Asiantaeth Cefnogi Cyflogaeth ELITE. Ariennir y cynllun yng Nghymru gan brosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid ehangach sy'n gweithio gyda chyflogwyr i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i ddatblygu sgiliau cyflogaeth drwy leoliadau gwaith a chael cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig.

Cafodd Anabledd Dysgu Cymru £10m gan y Gronfa Loteri Fawr - i arwain consortiwm o sefydliadau i Ymgysylltu Er Mwyn Newid. Cafodd grant Ar y Blaen 2 ei ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn bodloni blaenoriaethau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni'n ymroddedig yn ein nod i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae'r gymuned oll yn elwa o gael poblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr.