Cyffro oddi ar y cae i arloeswyr chwaraeon
5 Mai 2017
Gwahoddir busnesau bach â syniadau gwych i gymryd rhan mewn Digwyddiad Arloesedd Chwaraeon (SPIN) i gyd-fynd â Gêm Derfynol UEFA Champions League yng Nghaerdydd y mis nesaf.
Mae Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Sefydliad HYPE i gynnal arddangosfa a chystadleuaeth cyn y digwyddiad ar 3 Mehefin.
Bydd Sefydliad HYPE, platfform byd-eang sy'n cysylltu ac yn buddsoddi mewn arloesedd chwaraeon, yn cydweithio â'r Brifysgol a phanel o feirniaid arbenigol i enwi'r busnes chwaraeon newydd mwyaf arloesol, fydd yn gyfle i gael sylw yn y wasg a chael effaith ar fyd chwaraeon.
Cynhelir y digwyddiad ar 2 Mehefin – diwrnod cyn Gêm Derfynol UEFA Champions League – yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, dim ond milltir i ffwrdd o Stadiwm Genedlaethol Cymru.
Dim ond dau ddiwrnod sydd gan fusnesau bach i gofrestru i gymryd rhan. Bydd y cyfnod cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn gorffen am 23:59 o'r gloch ar 9 Mai 2017.
Bydd y digwyddiad yn dod â myfyrwyr, busnesau a chwmnïau chwaraeon at ei gilydd ar gyfer gŵyl arloesedd chwaraeon dros ddau ddiwrnod.
Fel rhan o ddigwyddiad HYPE SPIN, bydd 10 o gwmnïau'n cyflwyno eu syniadau chwaraeon i ffigurau blaenllaw o frandiau chwaraeon a thechnoleg adnabyddus, buddsoddwyr, ac academyddion. Bydd y beirniaid yn cynnwys Laura McAllister CBE, Athro Polisïau Cyhoeddus yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd; Bernd Wahler, cyn-Brif Swyddog Marchnata yn Adidas a Llywydd VfB Stuttgart; Ignacio Mestre, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad FC Barcelona; Guy Laurent Epstein, Cyfarwyddwr Marchnata UEFA; a Sébastien Audoux, Pennaeth Cynnwys Chwaraeon Digidol yn Canal+.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad HYPE, Amir Raveh: "Mae Sefydliad HYPE yn gyffrous iawn am y gystadleuaeth Arloesedd mewn Chwaraeon y byddwn yn ei chynnal ochr yn ochr â UEFA Champions League, fydd yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau bach gael sylw yn y cyfryngau."
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd: "Ni yw Cartref Arloesedd. Rydym yn hen law ar droi syniadau myfyrwyr yn fusnesau ffyniannus, ac mae gennym gynfyfyrwyr ymhlith rhai o arwyr chwaraeon gwledydd Prydain."
"Mae data diweddar yn dangos bod y Brifysgol wedi sicrhau cynnydd o £13.3m yn ei chyllid ar gyfer ymchwil gydweithredol - y cynnydd mwyaf yn y DU. Erbyn hyn, Caerdydd yn yr ail safle o blith prifysgolion ymchwil ddwys y DU yng Ngrŵp Russell o ran incwm eiddo deallusol – rydym yn cynhyrchu'r mwyafrif helaeth o'r incwm eiddo deallusol ymhlith sefydliadau addysg uwch Cymru."