Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yw’r orau yng Nghymru a’r 7fed yn y Deyrnas Unedig
18 Rhagfyr 2014
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yw'r orau yng Nghymru a'r seithfed yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ei hymchwil yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.
Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn asesu ac yn cydnabod gwerth ac effaith y gwaith ymchwil a wneir mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU. Mae sgôr Caerdydd yn ein rhoi uwchben Rhydychen, Caergrawnt a Bryste o safbwynt rhagoriaeth ymchwil. Cyflwynwyd enwau 57 o ysgolion ieithoedd modern ac ieithyddiaeth i'r panel. Mae'r gwaith ymchwil rhagorol a chyson a gyflawnir gan Ysgol y Gymraeg yn canolbwyntio ar lenyddiaeth ac iaith, cyfieithu, polisi a chynllunio ieithyddol.
Mae'r ymchwilwyr, a'r Ysgol drwyddi draw, yn chwarae rôl bwysig yn natblygiad y ddisgyblaeth yn yr 21ain Ganrif, yn ogystal â dylanwadu ar brosesau deddfwriaethol a chyfrannu at weithgarwch llenyddol a diwylliannol arloesol drwy ddefnyddio technolegau newydd.
Yn ogystal ag ansawdd yr ymchwil, llwyddodd y cais i ennill y sgôr uchaf posib (100%) am ei effaith ar y byd ehangach, yr unig un i gyflawni hynny ym maes Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth ledled y DU. Roedd yr aseswyr wedi ystyried 'cyrhaeddiad' ac 'arwyddocâd' yr astudiaethau achos a chanolbwyntiwyd y sylw ar fanteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y tu hwnt i academia.
Roedd yr astudiaeth achos effaith, Trawsnewid y Mabinogion, a gyflwynwyd gan yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, yn un o'r rheini a enillodd y sgôr uchaf posib o 100%. Roedd yn pwyso a mesur sut mae cyfieithiad modern Davies o'r Mabinogion wedi dylanwadu ar sut mae ysgrifennu creadigol Saesneg yn cael ei dderbyn, ei adrodd a'i gyflwyno, yn ogystal â'r effaith ar ddulliau modern o adrodd straeon, ac ar dwristiaeth a rheoli treftadaeth.
Mewn ymateb i'r canlyniadau, meddai'r Athro Davies: "Rydw i wrth fy modd gyda'r canlyniadau REF rhagorol a gyflawnwyd gan Ysgol y Gymraeg a'n cydweithwyr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Mae cael ein cymharu mor ffafriol yn erbyn rhai o sefydliadau mwyaf mawreddog y DU yn fy ngwneud i'n falch iawn. Mae'n deyrnged i ymdrech a gwaith caled yr holl aelodau staff. Mae eu hagwedd arloesol, uchelgeisiol a heriol at ymchwil yn ysbrydoledig.
"Mae gwaith ymchwil wrth galon ein gwaith yma yng Nghaerdydd, gan gyfrannu'n uniongyrchol at ein haddysgu ond hefyd at y gymdeithas a'r diwylliant o'n cwmpas. Rydw i'n falch iawn o'r effaith mae Ysgol y Gymraeg wedi'i chael, ac yn parhau i'w chael, ar fywyd modern yng Nghymru yn ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol."