Gallai tomenni slag helpu i dynnu carbon o'r atmosffer
2 Mai 2017
Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael £300 mil i arwain prosiect sy'n archwilio i strategaethau posibl ar gyfer ymyrryd â chynhesu byd-eang drwy ddefnyddio tomenni slag o'r diwydiant haearn a dur.
Amcangyfrifir y gellid defnyddio deunydd gwastraff o weithfeydd dur i dynnu rhwng 90 a 155 biliwn o dunellau o garbon deuocsid (CO2) o'r atmosffer dros y ganrif nesaf.
Mae Dr Phil Renforth, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd y Brifysgol, wedi cael yr arian fel rhan o fuddsoddiad £8m ledled y DU gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) sy'n canolbwyntio ar dynnu nwyon peryglus o'r atmosffer.
Atafaelu
Mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod tomenni slag, oherwydd eu cyfansoddiad cemegol, yn gallu amsugno CO2 o'r atmosffer drwy broses o'r enw atafaelu.
Bydd astudiaeth Dr Renforth yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gyflymu'r broses amsugno hon, a'r nod yn y pen draw fydd lleihau lefelau peryglus o CO2 yn yr atmosffer.
Bydd Dr Renforth yn astudio cemeg fewnol dyddodion slag hanesyddol i ddeall y broses amsugno yn well, ac yn cynnal treialon maes drwy chwistrellu CO2 mewn adweithyddion mawr a reolir.
Dywedodd Dr Renforth: “Yn gyntaf, byddwn yn tyllu i un o'r hen domenni slag hanesyddol hyn i weld beth sydd wedi bod yn digwydd yno dros y blynyddoedd, ac yn deall pa brosesau cemegol sydd wedi bod yn digwydd wrth i ddŵr glaw ddod â charbon deuocsid i mewn i'r domen.
“Yna, byddwn yn dechrau'r ail gam...”