Disgwyl torri'r record ar gyfer nifer y cystadleuwyr
2 Mai 2017
Mae Hanner Marathon Caerdydd / Prifysgol Caerdydd 2017 yn debygol o fod y digwyddiad rhedeg mwyaf yn hanes Cymru.
Mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan yn uwch nag erioed, ac mae mwy na phum mis tan ddiwrnod y ras ddydd Sul 1 Hydref.
Mae mwy na 11,000 o bobl eisoes wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad torfol mwyaf yng Nghymru, gan gynnwys cynnydd o bron i 700 ers i Farathon Llundain ein hysbrydoli.
Yn wir, mae cynnydd syfrdanol o 38% yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan o gymharu â'r adeg hon y llynedd.
Mae disgwyl y bydd y record flaenorol o 22,000 o redwyr yn cael ei thorri, felly cofrestrwch nawr yn www.cardiffhalfmarathon.co.uk/register/ os ydych chi am fod yn rhan o ras fwyaf a gorau Cymru.
Roedd y trefnwyr yn disgwyl tua 24,000 o gystadleuwyr yn ras eleni, ond mae'n bosibl y byddwn yn cyrraedd y nifer hwnnw yn fuan, felly mae'n bosibl y byddwn yn gosod uchafswm.
Bydd miloedd o bobl yn dod at ei gilydd ddydd Sul ar gyfer y ras fawr, a bydd Gŵyl Rhedeg Prifysgol Caerdydd ddydd Sadwrn yn ddechrau cyffrous i benwythnos y ras.
Y llynedd, cafodd plant y cyfle perffaith i gael blas ar ddigwyddiad rhedeg mawr yn y Ras Hwyl i'r Teulu a Ras y Plant Bach, ac roedd y Ras Hwyl i Fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn boblogaidd hefyd.
Dywedodd Matt Newman, Prif Swyddog Gweithredol Run 4 Wales: "Mae croeso i bobl o bob oedran a gallu i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd / Prifysgol Caerdydd, boed hynny fel rhan o dîm corfforaethol neu glwb rhedeg, neu fel rhedwr achlysurol neu un o'r rhai sy'n cymryd rhan drwy gynllun cymdeithasol fel Alfie's Army."
Mae Prifysgol Caerdydd yn annog myfyrwyr, staff, cynfyfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd i redeg er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil allweddol y Brifysgol ym maes iechyd.
Bydd nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim yn yr hanner marathon i redwyr sy'n datgan eu bwriad i godi o leiaf £150 (£100 i fyfyrwyr) dros yr achos hwn.
Bydd pob ceiniog o'r arian y bydd rhedwyr #TîmCaerdydd y Brifysgol yn ei godi yn mynd tuag at ymchwil ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.