Llythyr yr Is-Ganghellor i Donald Tusk
28 Ebrill 2017
Mae Is-Gangellorion sy'n cynrychioli prifysgolion ymchwil-ddwys ym mhob un o wledydd y DU wedi ysgrifennu at Donald Tusk, Llywydd Cyngor yr UE, i alw am ragor o gydweithio agos ar wyddoniaeth ac arloesedd yn sgîl Brexit.
Mae'r pedwar Is-Ganghellor – o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Nottingham a Phrifysgol Queen's Belfast – yn dweud y bydd gwyddoniaeth yn y DU a'r UE "yn gryfach os ydym yn parhau i gydweithio".
Gweler y llythyr llawn isod:
Annwyl Lywydd Tusk,
Fel Is-Gangellorion sy'n cynrychioli prifysgolion ymchwil-ddwys ym mhob un o wledydd y DU, ysgrifennwn ar ran prifysgolion Grŵp Russell ynglŷn â dechrau'r trafodaethau ffurfiol ynghylch ymadawiad Prydain â'r UE.
Mae prifysgolion Grŵp Russell yn arwain y byd ym maes gwyddoniaeth ac ymchwil. Yn 2015, roedd ein haelodau'n gyfrifol am bron i 20 y cant o'r papurau ymchwil a ddyfynnwyd fwyaf yn yr UE28.
Mae ein neges i chi cyn cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd yn un syml: bydd gwyddoniaeth yn y DU a'r UE yn gryfach os ydym yn parhau i gydweithio.
Mae gan y DU lawer i'w gynnig, ac nid ydym am i'n cyfraniad ddod i ben pan fyddwn yn gadael yr UE. Byddwn yn parhau i gydweithio mor agos â phosibl â'n partneriaid yn Ewrop.
Mae llywodraeth y DU wedi pwysleisio ei bod am barhau i gydweithio'n agos ym maes gwyddoniaeth ac arloesedd. Hoffem annog y Cyngor i fabwysiadu ymagwedd debyg, gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio cryf a chadarnhaol rhwng y DU a'r UE ym maes gwyddoniaeth, er mwyn sicrhau bod modd i hyn barhau.
Mae prifysgolion Grŵp Russell wedi sefydlu tua 7,000 o gysylltiadau cydweithredol â phartneriaid mewn aelod wladwriaethau'r UE drwy Horizon 2020 yn unig. Hoffem eich annog i roi ystyriaeth lawn i opsiynau a fyddai'n galluogi sefydliadau addysg uwch y DU i gymryd rhan mewn rhaglenni fframwaith ymchwil ac arloesedd yr UE yn y dyfodol ar sail rhagoriaeth.
Nodwn eich bod yn bwriadu sicrhau mai un o'r eitemau cyntaf fydd yn cael sylw yn y trafodaethau yw gwarant gyfatebol ar gyfer hawliau dinasyddion yr UE a'r DU a'u teuluoedd. Cefnogwn yr ymagwedd hon a gobeithiwn y bydd modd dod i gytundeb cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi sicrwydd i filiynau o bobl a fydd yn cael eu heffeithio, gan gynnwys 61,000 o fyfyrwyr a mwy na 24,000 o aelodau staff o wledydd yr UE ym mhrifysgolion Grŵp Russell.
Mae'n anochel y bydd perthynas bresennol y DU â'r UE yn newid. Fodd bynnag, nid oes angen creu rhwystrau newydd a fydd yn ein hatal rhag rhannu syniadau neu'n cyfyngu ar gydweithio rhyngwladol ar ymchwil. Mae nifer o ffyrdd y gallem gynnal y cysylltiadau presennol ac amddiffyn perthnasoedd gwaith ar ôl i'r DU adael yr UE, a dylid archwilio'n llawn i'r rhain fel mater o flaenoriaeth, wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt. Yng Ngogledd Iwerddon mae'r ffin â Gweriniaeth Iwerddon yn fater pwysig ac unigryw. Mae'n hollbwysig nad yw'r hawl i symud yn rhydd dros y ddwy awdurdodaeth yn cael ei effeithio, er mwyn cynnal a gwella'r cydweithio presennol rhwng y gogledd a'r de.
Byddai unrhyw setliad Brexit sy'n ei gwneud hi'n anoddach i brifysgolion gydweithio ar draws ffiniau rhyngwladol yn niweidiol i bob un ohonom. Byddem yn annog yr holl bartïon i wneud popeth o fewn eu gallu i osgoi canlyniad o'r fath.